Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Fel tanysgrifiwr i QAA, mae ystod gynyddol o wasanaethau neilltuedig ar gael i chi. Mae'r rhain wedi'u llunio i gefnogi datblygiad dulliau arloesol o safon uchel o sicrhau a gwella ansawdd ac arferion cysylltiedig er budd y myfyrwyr ym maes addysg uwch.


Yn ogystal â'r gwasanaethau hyn, mae ein hystod bresennol o danysgrifwyr craidd yn sicrhau bod y sector cyfan yn berchen ar y seilwaith ansawdd, a bod enw da addysg uwch y Deyrnas Unedig yn cael ei gynnal a'i hybu drwy'r byd i gyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynnal a chadw Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU
  • seilwaith i gefnogi a diogelu system annibynnol i'r DU gyfan o reoleiddio pwerau dyfarnu graddau a theitl prifysgol
  • hybu a diogelu addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd
  • cefnogi ymgysylltiad myfyrwyr, rhoi cyngor a chyfarwyddyd
  • rheoleiddio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
  • cydlynu ein gwaith gyda chyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio
  • dadansoddi data am y sefydliadau a'r sector
  • datblygu polisïau.

Rydym yn diweddaru ein rhaglen o wasanaethau drwy'r amser. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth chi, felly os na allwch ganfod yr hyn yr ydych ei angen, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.


Ein Cymuned Danysgrifwyr


Mae Cymuned Danysgrifwyr QAA yn fan cyfarfod rhithwir lle gall yr aelodau gael gafael yn hawdd ar adnoddau am sicrhau a gwella ansawdd, gan gynnwys y rheiny sydd ar gael i'n tanysgrifwyr yn unig, a lle gallent ofyn cwestiynau a rhannu profiadau ac arbenigedd.



Ymuno â'r Gymuned Danysgrifwyr


Mae'r aelodaeth yn agored i bob gweithiwr yn y sefydliadau sy'n tanysgrifio. Ychwanegir adnoddau newydd yn rheolaidd, ac mae diweddariad misol yn crynhoi'r hyn sy'n newydd a'r hyn sydd ar y gweill. Gallwch ofyn am enw mewngofnodi drwy gysylltu â ni.



Astudiaethau achos o arferion da


Mae'r astudiaethau achos hyn sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid yn rhoi enghreifftiau defnyddiol o arferion da cyfredol a ffyrdd newydd o weithio. Mae'r astudiaethau wedi'u llunio i rannu syniadau ac annog dulliau arloesol o sicrhau a gwella ansawdd, maent ar gael i'n tanysgrifwyr yn unig drwy'r Gymuned Danysgrifwyr.


Dyma'r pynciau ar gyfer y dyfodol a'r dyddiadau cyflwyno:

Rhagfyr 2018 (cyfnod cyflwyno: 19 Tachwedd i 7 Rhagfyr)

  • Hybu gonestrwydd academaidd
  • Ymwreiddio llythrennedd digidol
  • Dulliau arloesol o ddysgu hyblyg.

Canllaw cyflwyno


I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i gyflwyno astudiaeth achos i ni, lawrlwythwch ein canllaw cyflwyno.


Good Practice Case Study Programme Guidance 2018

Dyddiad cyhoeddi: 04 Ebr 2018


‘International Insights’


Llunnir ein cyfres ‘International Insights’ i gefnogi gweithgareddau rhyngwladol y sefydliadau. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn lle gwych i gychwyn os ydych yn gweithio'n rhyngwladol neu os hoffech wybod rhagor am wlad benodol cyn i chi ystyried partneriaethau newydd.


Yn ogystal, datblygwyd cyfres o weminarau i ddarparu cyfleoedd i ymgysylltu'n uniongyrchol â'n hasiantaethau partner yn y gwledydd allweddol dan sylw, ac i ofyn cwestiynau iddynt, gan gynnwys yn Tsieina, Hong Kong, Dubai/yr Emiraethau Arabaidd Unedig.


Mae adnoddau'r gyfres ‘International Insights’ ar gael i danysgrifwyr QAA ar wefan y Gymuned Danysgrifwyr.


Y Rhwydwaith Gwella Ansawdd


Lluniwyd y Rhwydwaith Gwella Ansawdd i danysgrifwyr QAA yn unig i'w cefnogi yn eu gwaith o gynnal a gwella rheolaeth effeithiol ar ansawdd a safonau ym maes addysg uwch.


Mae'r Rhwydwaith yn dod â gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ym maes sicrhau ansawdd a phobl eraill sydd â diddordeb mewn addysg uwch at ei gilydd i drafod materion cyfredol yn ymwneud â sicrhau ansawdd.


Cynhelir digwyddiadau'r Rhwydwaith Gwella Ansawdd bob blwyddyn mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y DU. Maent ar gael i'n tanysgrifwyr yn unig. Rydym bob amser yn croesawu awgrymiadau am ddigwyddiadau, siaradwyr ac astudiaethau achos.


Pynciau yn nigwyddiadau blaenorol y Rhwydwaith Gwella Ansawdd

  • Gweithio gyda'r Cod Ansawdd yn y system newydd ar gyfer asesu ansawdd
  • Ymgysylltiad myfyrwyr
  • Cymwysterau sydd angen pwerau i ddyfarnu mwy nag un radd benodol
  • Ymwreiddio llythrennedd digidol
  • Cynnwys y myfyrwyr yn y gwaith o fonitro rhaglenni astudio addysg uwch
  • Y ffordd y mae prifysgolion a cholegau'n cydweithio i sicrhau safonau academaidd
  • Darpariaeth gydweithredol drawswladol.

Adnoddau'r Rhwydwaith Gwella Ansawdd


Mae'r holl adnoddau o'n digwyddiadau Rhwydwaith Gwella Ansawdd ar gael i danysgrifwyr QAA ar wefan ein Cymuned Danysgrifwyr.


Dilynwch #QENetwork ar Twitter i ddarllen y diweddaraf yn y cyfryngau cymdeithasol am y digwyddiadau sydd ar y gweill a galwadau am gyfraniadau.


Rhwydweithiau Rhanbarthol


Mae ein saith Rhwydwaith Rhanbarthol yn cael eu cyflwyno ledled y DU ar hyn o bryd. Maent yn darparu cyfleoedd lleol i gwrdd ag ymarferwyr ym maes ansawdd i rannu syniadau ac i ddysgu'r wybodaeth ddiweddaraf.


Cyngor a chyfarwyddyd


Gallwch elwa o'r ystod gynyddol o'n canllawiau a'n gweminarau ar-lein. Mae'r amserlen o weminarau sydd ar y gweill yn cynnwys pynciau megis y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG), graddau ‘carlam’, fframweithiau credydau, a data a thystiolaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i baratoi ar gyfer y datblygiadau diweddaraf a'r pynciau llosg y mae gweithwyr proffesiynol ym maes ansawdd yn ymdrin â hwy.


‘Focus On’


Mae'r rhaglen ‘Focus On’, a gynhyrchir gan QAA Scotland, yn darparu ystod o adnoddau yn ymwneud â themâu penodol. Mae'r pynciau'n cynnwys profiad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, adolygiad dan arweiniad sefydliad, a hyfforddiant a chymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n addysgu.



Themâu Gwelliant


Yn yr Alban, mae'r prifysgolion a'r colegau gyda'i gilydd yn canolbwyntio ar un Thema Gwelliant benodol. Mae pob Thema'n rhedeg am dair blynedd, ac mae'r papurau, yr astudiaethau achos a'r adnoddau a gesglir ar ddiwedd y gyfres yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ac ysbrydoliaeth.



Y Gynhadledd Flynyddol i Danysgrifwyr


Mae ein Cynhadledd Flynyddol yn dod ag arbenigwyr ym maes sicrhau ansawdd at ei gilydd o bob cwr o'r DU a'r byd i drafod y materion diweddaraf sydd o ddiddordeb, ac mae'n gyfle gwych i rwydweithio, rhannu, gwrando a thrafod. Mae gan bob sefydliad sy'n tanysgrifio i QAA ddau le am ddim i staff, ac un lle am ddim i fyfyriwr.


Tanysgrifio i QAA


Mynnwch ragor o wybodaeth ynglŷn â thanysgrifio'n wirfoddol i QAA.