Higher Education that Works: Involving Employers in Quality Assurance
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebr 2018
Mae QAA yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau, cyflogwyr, a chyrff cynrychioli cyflogwyr i wneud yn siŵr bod sicrwydd o ansawdd addysg uwch yn berthnasol i gyflogwyr.
Yn ogystal, credwn fod hawl gan bob myfyriwr gael y profiad dysgu gorau posib ac, yn rhan o hynny, byddent yn datblygu'n unigolion graddedig sy'n gyflogadwy ac yn atyniadol i gyflogwyr.
Mae cyflogwyr yn bartneriaid pwysig i brifysgolion a cholegau, fel pobl sy'n darparu lleoliadau gwaith a chyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr ac hefyd fel partneriaid yn y broses o ddatblygu'r gweithlu a rhoi datblygiad proffesiynol parhaus iddynt. Fwy a mwy y dyddiau hyn, mae cyflogwyr nid yn unig yn siapio profiadau dysgu myfyrwyr ond maent hefyd yn cymryd rhan ym mhrosesau llywodraethu a chynllunio'r prifysgolion a'r colegau.
Mae sicrhau ansawdd a safonau o'r radd flaenaf yn rhoi hyder i fyfyrwyr, cyflogwyr a phawb arall yn addysg y myfyrwyr. Rydym yn gweithio i gynnwys ac i rymuso cyflogwyr, myfyrwyr addysg uwch a graddedigion yn y broses o siapio'r agenda cyflogadwyedd cenedlaethol ym maes addysg uwch.
Mae QAA wedi'i hymrwymo i weithio i ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r ddeialog sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y cymwysterau'n ateb yr anghenion academaidd a'r anghenion ymarferol ym myd diwydiant a busnes.
Rydym yn cynnwys cyflogwyr mewn agweddau niferus o'n gwaith:
Mae gennym nifer o adroddiadau a chanllawiau a allai fod o ddiddordeb i gyflogwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebr 2018
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebr 2018
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebr 2018
Rydym yn gweithio'n agos â phartneriaid sydd â diddordeb mewn siapio'r ffyrdd y mae'r sector addysg uwch a'r byd diwydiant a busnes yn cydweithio er budd myfyrwyr a chyflogwyr.
Mae Professions Together yn sefydliad sy'n tyfu ac yn un a sefydlwyd gan arbenigwyr yn y sector cyrff proffesiynol a rheoleiddio i ddarparu fforwm i'w aelodau ddod at ei gilydd a rhannu arbenigedd.
Mae SEEC yn elusen gofrestredig sydd wedi'i hymrwymo i gefnogi symudedd myfyrwyr ac i greu cyfleoedd dysgu drwy ddefnyddio credyd academaidd.
Sefydlwyd y Gymdeithas Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu yn y Gweithle i hyrwyddo ansawdd, effeithiolrwydd ac amlygrwydd dysgu sy'n seiliedig ar waith a dysgu yn y gweithle ym maes addysg uwch.