QAA Strategaeth
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorff 2020
Ein gweledigaeth yw cadw addysg uwch y DU ymysg y gorau yn y byd drwy ei sicrhau'n annibynnol.
Fel y corff annibynnol sydd â'r cyfrifoldeb am fonitro ansawdd a safonau addysg uwch y DU a darparu cyngor perthnasol, rydym wedi ymrwymo i wirio bod y tair miliwn o fyfyrwyr sy'n gweithio tuag at ennill cymhwyster y DU yn derbyn y profiadau addysg uwch y mae hawl ganddynt eu disgwyl.
Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o'n gwaith.
Rydym yn gweithio ymhob un o bedair gwlad y DU.
Rydym hefyd yn adeiladu partneriaethau rhyngwladol i wella a hybu enw da addysg uwch y DU drwy'r byd i gyd.
Mae ein gwaith yn ategu ein cenhadaeth i ddiogelu safonau a gwella addysg uwch y DU, lle bynnag y mae'n cael ei darparu ledled y byd.
Mae ein pedair ffilm fer yn rhoi esboniad manylach o'r gwaith a wnawn ledled y Deyrnas Unedig a'r byd. Cawsent eu creu yn 2017, sef blwyddyn ein 20fed pen-blwydd, ac maent yn cynnwys cyfweliadau gyda nifer o ddirprwy is-gangellorion a phenaethiaid o bob rhan o sector addysg uwch y DU.
Mae ein Strategaeth yn nodi ein hamcanion ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorff 2020
Dyddiad cyhoeddi: 04 Chwef 2021
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebr 2020