Yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan ein Haelodau QAA yng Nghymru, mae QAA Cymru wedi lansio menter welliant newydd er budd y sector a myfyrwyr yng Nghymru.
Nod ein Prosiectau Gwelliant Cydweithredol yw dod ag Aelodau QAA yng Nghymru ynghyd i gydweithredu ar waith sydd o fudd i bawb sy’n ymwneud â’r fenter. Byddant yn derbyn cymorth gan QAA Cymru ar ffurf cyllido a rhywfaint o gefnogaeth gan staff
Mae QAA Cymru wedi gweithio gyda Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru ac Aelodau QAA i ddynodi themâu a phynciau posibl ar gyfer cydweithredu, sydd â'r potensial i ychwanegu gwerth i'r sector cyfan ar ôl eu cwblhau.
Dysgu o / myfyrio ar COVID-19
- Dysgu cyfunol
- Agwedd dim anfantais
Llais / ymgysylltu â myfyrwyr
- Cyrhaeddiad myfyrwyr CALlE
- Cynhwysiad a chydnabod profiadau myfyrwyr unigol
- Ymgysylltiad myfyrwyr â phartneriaid cydweithredol
- Dadansoddeg data / dysgwyr
Asesiadau / staff academaidd
- Gwella asesu a hyblygrwydd asesu (gan gynnwys asesiadau ar-lein)
- Ymgysylltu academyddion â QAA
Themâu sylfaenol
- Themâu o Adolygiadau Gwella Ansawdd
- Gweithio gyda chyrff eraill yn y sector
- Dwyieithrwydd
Please note that this list is not exhaustive, and we welcome expressions of interest on any topic.
Adnoddau prosiect
Ymgysylltiad Myfyrwyr â Dysgu
Gwybodaeth bellach
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gefndir am y gwaith hwn ar ein Gwefannau Adnoddau’r Aelodaeth.
Adnoddau o Sesiwn Cynllunio Gwelliant QAA Cymru, dydd Mawrth 15 Rhagfyr: recordiad o’r cyflwyniad, cyflwyniad, cofnod ysgrifenedig