Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

 

Yn dilyn adborth a dderbyniwyd gan ein Haelodau QAA yng Nghymru, mae QAA Cymru wedi lansio menter welliant newydd er budd y sector a myfyrwyr yng Nghymru.

 

Nod ein Prosiectau Gwelliant Cydweithredol yw dod ag Aelodau QAA yng Nghymru ynghyd i gydweithredu ar waith sydd o fudd i bawb sy’n ymwneud â’r fenter. Byddant yn derbyn cymorth gan QAA Cymru ar ffurf cyllido a rhywfaint o gefnogaeth gan staff

 

Mae QAA Cymru wedi gweithio gyda Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru ac Aelodau QAA i ddynodi themâu a phynciau posibl ar gyfer cydweithredu, sydd â'r potensial i ychwanegu gwerth i'r sector cyfan ar ôl eu cwblhau.

 

 

Dysgu o / myfyrio ar COVID-19

  • Dysgu cyfunol
  • Agwedd dim anfantais

Llais / ymgysylltu â myfyrwyr

  • Cyrhaeddiad myfyrwyr CALlE
  • Cynhwysiad a chydnabod profiadau myfyrwyr unigol
  • Ymgysylltiad myfyrwyr â phartneriaid cydweithredol
  • Dadansoddeg data / dysgwyr

Asesiadau / staff academaidd

  • Gwella asesu a hyblygrwydd asesu (gan gynnwys asesiadau ar-lein)
  • Ymgysylltu academyddion â QAA

Themâu sylfaenol

  • Themâu o Adolygiadau Gwella Ansawdd
  • Gweithio gyda chyrff eraill yn y sector
  • Dwyieithrwydd

Please note that this list is not exhaustive, and we welcome expressions of interest on any topic.

Cyflwyno mynegiant o ddiddordeb

 

Darllenwch y ddogfen Galw am Fynegiadau o Ddiddordeb i gael mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn.

 

Dylid dychwelyd Ffurflenni Cais Mynegiant o Ddiddordeb i h.thomas@qaa.ac.uk ynghyd â chopi i ARCAdmin@qaa.ac.uk erbyn dydd Gwener 9 Ebrill.

 

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect ond heb ddynodi unrhyw bartneriaid cydweithredol, byddem yn eich annog i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb o hyd. Yn dilyn y dyddiad cau, bydd QAA yn mynd ati i ganfod prosiectau sydd â nodau tebyg ac yn gweithio gyda darparwyr i ffurfio Prosiect Gwella Cydweithredol.

 

 

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gefndir am y gwaith hwn ar ein Gwefannau Adnoddau’r Aelodaeth.

 

Adnoddau o Sesiwn Cynllunio Gwelliant QAA Cymru, dydd Mawrth 15 Rhagfyr: recordiad o’r cyflwyniad, cyflwyniad, cofnod ysgrifenedig