Y Llawlyfr ar gyfer yr Adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hyd 2020
Mae QAA wedi cael ei chomisiynu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i wneud Adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21. Mae'r adolygiad yn ymwneud dim ond â Phrentisiaethau Gradd a ariennir gan CCAUC, sef y rhai sydd wedi bod ar gael fel rhan o gynllun peilot ers 2018-19, gan gwmpasu'r tri maes canlynol sydd â blaenoriaeth: Sgiliau Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn drafft o'r dull adolygu ym mis Awst 2020, cyhoeddwyd llawlyfr terfynol ym mis Hydref 2020. Mae dogfen gryno'n amlinellu'r ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad, ynghyd â'r newidiadau cyfatebol a wnaed i'r llawlyfr.
Lluniwyd yr Adolygiad o Brentisiaethau Gradd i fod yn adolygiad datblygiadol sy'n canolbwyntio ar y ffordd y mae darparwyr addysg uwch yn darparu'r rhaglen, gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith. Un o nodweddion allweddol yr adolygiad yw'r defnydd a wneir
o'r Datganiad o Nodweddion ar gyfer Addysg Uwch mewn Prentisiaethau a gyhoeddir gan QAA.
Lluniwyd yr Adolygiad o Brentisiaethau Gradd i fod yn adolygiad datblygiadol sy'n canolbwyntio ar y ffordd y mae darparwyr addysg uwch yn darparu'r rhaglen, gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith. Un o nodweddion allweddol yr adolygiad yw'r defnydd a wneir o'r Datganiad o Nodweddion ar gyfer Addysg Uwch mewn Prentisiaethau a gyhoeddir gan QAA.
Bydd yr adolygiad yn arwain at adroddiad nas cyhoeddir ar gyfer pob prif ddarparwr, a chaiff hwn ei rannu â CCAUC. Caiff adroddiad ei gyhoeddi i'r sector cyfan, a fydd yn rhoi crynodeb dienw o'r ddarpariaeth a chanfyddiadau'r holl adolygiadau, yn ogystal â gwneud argymhellion ar gyfer darparu rhaglenni prentisiaeth yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad hwn yn cyfrannu at werthusiad Llywodraeth Cymru o gynllun peilot Prentisiaethau Gradd CCAUC.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hyd 2020
Cynhaliwyd sesiwn briffio i ddarparwyr, partneriaid a Phrif Gynrychiolwyr Prentisiaid gan QAA ar 2 Tachwedd 2020, er mwyn darparu cyd-destun i'r adolygiad a chynnig cymorth i ddarparwyr ddechrau ar eu gwaith paratoi.
Caiff recordiad o'r briffio ei gyhoeddi gyferbyn, ynghyd â chopi o'r cyflwyniad a chrynodeb o'r cwestiynau a'r drafodaeth o'r sesiwn. Cynhaliwyd y sesiwn briffio hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tach 2020
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tach 2020
Nod yr adroddiad trosolwg hwn yw rhannu rhai o ganfyddiadau allweddol yr Adolygiad o Brentisiaethau Gradd yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 05 Hyd 2021
Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ac i roi ystyriaeth i ofynion a disgwyliadau'r Safonau Iaith Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch Atodiad D y Llawlyfr.