
Trefn Apelio Gyfunol 2015
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2015
Awdur: | QAA |
---|---|
Fformat: | |
Maint y ffeil: | 0.09 MB |
Mae QAA wedi'i hymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib, ac i weithio mewn ffordd agored ac atebol. Un o'r ffyrdd yr ydym yn parhau i wella ein gwasanaeth yw drwy wrando ar farn ein tanysgrifwyr, ein rhanddeiliaid a defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys ymateb i gwynion mewn ffordd bositif a chywiro camgymeriadau.
Gadewch i ni wybod os ydych yn anfodlon gyda'r gwasanaeth yr ydych wedi'i dderbyn gennym.
I ddechrau, dylech siarad â'r unigolyn rydych wedi bod yn gweithio ag o/â hi yn QAA, fel bod cyfle ganddo/ganddi i'ch helpu a datrys y mater.
Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb a roddwyd, dylech ysgrifennu at Dîm Ymholiadau QAA gan ofyn i'ch cwyn a'r ymateb iddi gael eu hadolygu. Yna bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at y Pennaeth Llywodraethu, a bydd yntau/hithau yn anfon cydnabyddiaeth ysgrifenedig atoch.
Bydd y Pennaeth Llywodraethu'n ystyried a yw eich cwyn yn codi materion sy'n ymwneud ag ansawdd y gwasanaeth, a'r rhan amlaf bydd yn ymateb yn uniongyrchol. Gallai ef/hi benderfynu bod eich cwyn yn gofyn ystyriaeth fwy manwl, a bydd yn cyfeirio'r gŵyn i dderbyn ymchwiliad pellach cyn ymateb. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn sicrhau nad oes gan y swyddog ymchwilio unrhyw fuddiannau sy'n gwrthdaro.
Bydd cwynion a ystyrir yn ‘ddifrifol’ yn cael eu cyfeirio at Brif Weithredwr QAA. Gallai esiamplau o hyn gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â honiadau o ymddygiad amhriodol, twyll neu anonestrwydd. Efallai na fydd cwynion o'r natur yma'n atebol i amserlennu'r canllawiau sydd wedi'u hamlinellu isod.
Ein nod yw ymchwilio cwynion yn gyflym ac yn drwyadl.
Mae gennym drefnau clir wedi'u cyhoeddi ar gyfer ymateb i gwynion gan ddarparwyr addysg uwch ac i ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau penodol.
Rydym yn gwahaniaethu rhwng cwynion ac apeliadau. Yn ein barn ni, pan fydd rhywun yn cwyno maent yn mynegi anfodlonrwydd gyda'r gwasanaethau a ddarparwn neu bethau a wnawn.
Mae apeliadau'n heriau i benderfyniadau penodol, dan amgylchiadau penodol, a chânt eu trin drwy ein Trefn Apelio Gyfunol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2015
Dylid cyflwyno apeliadau gan ddefnyddio Ffurflen Gyflwyno Apêl QAA.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2015
Nodwch: mae'r drefn apelio ar gyfer y Diploma Mynediad i AU yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.
Mae trefn apelio ar wahân ar gyfer apeliadau sy'n ymwneud â'r dull Adolygiad Ansawdd Porth: Cymru:
Dyddiad cyhoeddi: 03 Medi 2018
Dylid cyflwyno apeliadau gan ddefnyddio'r Ffurflen Gyflwyno Apêl ar gyfer Adolygiad Ansawdd Porth: Cymru:
Dyddiad cyhoeddi: 03 Medi 2018
Mae trefn apelio ar wahân ar gyfer apeliadau sy'n ymwneud â'r dull Adolygiad Gwella Ansawdd:
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2020
Dylid cyflwyno apeliadau gan ddefnyddio'r Ffurflen Gyflwyno Apêl ar gyfer Adolygiad Gwella Ansawdd
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2020
I gael rhagor o arweiniad ar unrhyw agwedd o'n trefn gwyno, cysylltwch os gwelwch yn dda â'n Tîm Ymholiadau, a byddent hwy'n hapus i'ch helpu.