Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

30 Ebrill 2019


Rhoi Lle i'r Myfyrwyr wrth y Bwrdd





Matt Adie
Cyd-gadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr i Gynghori ar Strategaeth QAA

Yn ôl yn 2004, cefais fy ethol yn aelod o Gyngor Disgyblion fy ysgol gynradd i gynrychioli dosbarth 5A y cyfnod Cynradd. Heblaw am Ffiasgo Mawr y Pwyntiau Llys ym mis Ionawr 2005, byddai'n deg dweud nad oedd hon yn un o'r rolau mwyaf heriol neu gynhennus. Roedd ein trafodaethau'n canolbwyntio i raddau mawr ar safon wael y pennau blaen ffelt neu geisiadau cyson am ymestyn yr awr ginio - cafodd pob un ei wrthod. Yn sicr, nid oeddem yn brwydro drwy fframweithiau polisi i'r DU gyfan, nac yn pendroni dros ystyr ymgynghoriadau statudol er mwyn eu hateb.


Roedd hynny 15 mlynedd yn ôl ac, i mi, dyma oedd cam cyntaf fy nhaith hir fel myfyriwr sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd profiad y myfyriwr. O'i gymharu â'r drefn soffistigedig sydd gennym heddiw ar gyfer rhoi sylw i lais y myfyriwr yn sector addysg uwch y DU, efallai bod fy mhrofiad yn yr ysgol gynradd yn ymddangos braidd yn gyntefig. Ond, mewn gwirionedd, mae'r pethau sy'n gyrru'r ddau brofiad a'r canlyniadau a gawn yn ddigon tebyg i'w gilydd. Bryd hynny, a heddiw, yr awydd sylfaenol sy'n sail i'n hymdrechion i ymgysylltu â'r myfyrwyr yw'r awydd i glywed y lleisiau niferus a'r safbwyntiau sydd ganddynt i'w cynnig.


Y dyddiau yma, mae'r profiad 'byw' o fod yn fyfyriwr addysg uwch yn y presennol yn cynnig safbwynt ffres ar faterion cyfoes - y tu allan i'r wleidyddiaeth sefydliadol sy'n rhwystro creadigedd, neu i'r dadleuon ynghylch yr hyn sy'n bosibl neu'n amhosibl gyda'r adnoddau sydd gan y sefydliad.


Yn ystod fy amser yn y sector addysg uwch, rwyf wedi sylweddoli bod llais y myfyriwr ar ei gryfaf pan fo wedi'i gyfuno â llais y bobl hynny yn y maes academaidd ac yn y gwasanaethau proffesiynol sy'n gwneud y penderfyniadau. Mae'r timau dysgu ac addysgu hyn yn rhai delfrydol am eu bod yn cyfuno creadigedd ac elfen allanol safbwynt y myfyriwr gyda gwybodaeth y sefydliad ynglŷn â sut i wneud newidiadau. Gall hyn hwyluso'r broses o ddatrys y problemau mwyaf cymhleth hyd yn oed.

Mae Pwyllgor Myfyrwyr i Gynghori ar Strategaeth QAA yn cyflawni'r swyddogaeth hon ar lefel y sector drwy roi cyngor i Fwrdd QAA ynglŷn â materion cyfoes mewn addysg uwch, gan sicrhau fod llais y myfyriwr yn flaenllaw yng ngweithgareddau a phrosesau gwneud penderfyniadau QAA.  


Mae'r Pwyllgor yn dod â rhai o'r bobl fwyaf galluog ym maes ymgysylltiad y myfyrwyr at ei gilydd o bob cwr o'r DU, ac mae'n cynrychioli'r amrywiaeth sydd i'w gael yn narpariaeth addysg uwch y DU. Yn ein cynhadledd flynyddol 'Quality Matters', rydym yn clywed yn uniongyrchol gan gynrychiolwyr myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes ansawdd am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw mewn perthynas â chynnwys y myfyrwyr mewn prosesau sicrhau a gwella ansawdd. Gyda'r wybodaeth hon yn flaenllaw yn ein meddwl, rydym yn canolbwyntio ar gyflawni nifer o brosiectau i sicrhau gwelliant sydd wedi'u llunio i ymdrin yn uniongyrchol â phryderon y sector. Dyma rai o'r prosiectau y mae'r Pwyllgor yn eu symud yn eu blaen ar hyn o bryd:

  • datblygu adnoddau penodol i gefnogi gwell ymgysylltiad gan fyfyrwyr sy'n astudio amrywiaeth eang o raglenni astudio (er enghraifft, addysg uwch mewn addysg bellach, prentisiaethau gradd, myfyrwyr rhyngwladol)
  • sicrhau bod y myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn effeithiol yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu dulliau sicrhau ansawdd newydd yn y DU
  • triongli barn y myfyrwyr trwy Brydain gyfan, er mwyn sicrhau bod llais y myfyrwyr yn bwydo i mewn i galon yr holl weithgareddau ymgynghori ar bolisïau yn y sector
  • ymwreiddio safbwynt y myfyriwr yn natblygiad y gwasanaethau newydd y mae QAA yn eu cynnig i'w haelodau.

Mae gan y Deyrnas Unedig enw da haeddiannol drwy'r byd i gyd am ei harweinyddiaeth ym maes ymgysylltiad myfyrwyr, ar lefel y darparwyr a lefel y sector. Yn wir, yr Alban oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno adolygwyr sy'n fyfyrwyr yn rhan o bob tîm Adolygiad Sefydliadol, yn ôl yn 2003. Heddiw, mae ymgysylltiad myfyrwyr yn nodwedd allweddol yn yr arferion sydd wedi'u nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o God Ansawdd Addysg Uwch y DU, a gefnogir gan Gyngor a Chyfarwyddyd pwrpasol.  


Ond rhaid dal ymlaen i gadw llygad craff ar bethau. O edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd fel sector i ymdrin â rhai o'r sialensiau allweddol ym maes ymgysylltiad myfyrwyr y byddwn yn eu hwynebu yn y blynyddoedd nesaf. Maent yn cynnwys:

  • gwella'r defnydd a wnawn o dystiolaeth i ddangos yr angen am welliant, ac effaith y gwelliannau a wneir
  • cynnwys myfyrwyr mewn systemau asesu ansawdd a rheoleiddio sy'n rhoi mwy o ystyriaeth i risgiau
  • cefnogi ymgysylltiad y carfannau o fyfyrwyr sy'n mynd yn gynyddol amrywiol
  • ymgysylltu â'r myfyrwyr sy'n astudio drwy bortffolio eang y Deyrnas Unedig o raglenni a phartneriaethau addysg drawswladol ledled y byd.

Wrth i ni symud i'r bennod nesaf o ddatblygiad ein sector - sy'n debygol o weld pwysau sylweddol ar ddarparwyr i newid eu ffyrdd o weithio mewn ymateb i sialensiau mewnol ac allanol - mae'n bwysig peidio â cholli golwg ar y gwerth a'r dirnadaethau beirniadol y gall y myfyrwyr eu gosod ar y bwrdd.