Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

19 Tachwedd 2021


Effaith y pandemig ar Addysg uwch - persbectif o Ganada ar ddysgu digidol





AWDURON



Dr. Nicole Johnson
Cyfarwyddwr Ymchwil Cymdeithas Ymchwil i Ddysgu Digidol Canada (CDLRA)


Dr Nicole Johnson yw Cyfarwyddwr Ymchwil Cymdeithas Ymchwil i Ddysgu Digidol Canada (CDLRA), ac mae wedi bod yn ymwneud â maes technoleg addysgol ers 2010. Cafwyd cyflwyniad gan Dr. Johnson yn nigwyddiad Rhannu Arfer QAA ar gyfer: Cronfa Buddsoddiad ac Adferiad Addysg Uwch (HEIR), ddydd Mercher 15fed Medi, lle rhannodd ymchwil o Ganada gan ddisgrifio esblygiad dysgu digidol yn ystod pandemig COVID


Yn y blog hwn, mae Dr Johnson yn sôn am yr ymchwil a sut mae'r pandemig wedi dylanwadu ar ddysgu digidol.


Mae pandemig COVID-19 wedi profi i fod yn drobwynt sylweddol mewn dysgu digidol yng Nghanada. 


Mae canfyddiadau o arolygon blynyddol a gynhaliwyd gan Gymdeithas Ymchwil i Ddysgu Digidol Canada (CDLRA) yn dangos bod cyfran y cyrsiau a gyflwynir yn gyfangwbl ar-lein wedi cynyddu o 10% yn Hydref 2019 i 81% yn Hydref 2020. Nid oedd y mwyafrif o aelodau cyfadrannau wedi derbyn fawr ddim hyfforddiant, os o gwbl, i’w paratoi ar gyfer addysgu ar-lein cyn y pandemig. 


Ers Hydref 2021, mae myfyrwyr ôl-uwchradd Canada wedi gallu dychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb; fodd bynnag, mae data o Arolwg Cenedlaethol 2021 o Ddysgu Ar-lein a Digidol yn dangos y bydd opsiynau dysgu digidol yn llawer mwy cyffredin na chyn y pandemig. Mae'r siart isod yn dangos bod addysgu hybrid (yn rhannol ar-lein), mwy o ddefnydd o dechnoleg ar gyfer addysgu a dysgu, a mwy o ddibyniaeth ar ddeunyddiau addysgu digidol yn debygol iawn o gael eu cynnig gan oddeutu hanner y sefydliadau a arolygwyd.


""

Mae hefyd yn fwriad rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad proffesiynol sy'n gysylltiedig â dysgu digidol wrth symud ymlaen. Mae bron bob un o sefydliadau ôl-uwchradd Canada (95%) yn bwriadu darparu datblygiad proffesiynol pellach ar gyfer eu cyfadrannau ym maes dysgu digidol yn y flwyddyn academaidd 2021-22. 


Wrth i ni barhau i geisio ymdopi â'r pandemig, mae heriau'n parhau. Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol 2021 o Ddysgu Ar-lein a Digidol i’r ymatebwyr nodi’r heriau mwyaf maen nhw’n eu hwynebu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Fel y gwelir yn y siart isod, iechyd meddwl ac asesu mewn cyd-destun ar-lein oedd y prif bryderon o bell ffordd.


""

 

Yn olaf, wrth i ddysgu digidol barhau i esblygu ac wrth i arferion newydd ddod i'r amlwg, mae angen dybryd i weithredu a datblygu diffiniadau cyffredin ar gyfer termau allweddol sy'n ymwneud â dysgu ar-lein.


Nododd tua hanner y sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Cenedlaethol 2021 o Ddysgu Ar-lein a Digidol nad oedd ganddynt ddiffiniad cyffredin ar draws y sefydliad ar gyfer y termau dysgu ar-lein a dysgu hybrid. 


Er mwyn olrhain twf gwahanol ddulliau o ddarparu cyrsiau yn well wrth symud ymlaen, mae'r CDLRA wedi cynnig y Sbectrwm Dulliau Dysgu, sy'n fframwaith ar gyfer categoreiddio termau a ddefnyddir yn gyffredin sy'n gysylltiedig â dysgu digidol. Mae'r adroddiad llawn sy'n disgrifio datblygiad y fframwaith a phob agwedd ar y fframwaith mewn mwy o fanylder ar gael yn: http://www.cdlra-acrfl.ca/2021-cdlra-definitions-report.


Sbectrwm Dulliau Dysgu


""

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae'r Sbectrwm Dulliau Dysgu “wedi'i chynllunio yn y fath fodd fel y bydd y diffiniadau'n dal eu hystyr dros amser (wrth i dechnolegau a ffyrdd o addysgu a dysgu barhau i ddatblygu). Mae'r fframwaith yn fwriadol eang, ac mae’n galluogi dosbarthiad cyson o wahanol ddulliau dysgu yn seiliedig ar nodweddion y modd hwnnw, beth bynnag fo’r math hwnnw o ddysgu’n cael ei alw mewn sefydliad unigol.”


Mae Canada yn wlad ddwyieithog, amrywiaethol a daearyddol fawr. O fewn y tueddiadau a'r heriau cyffredin mae pwyslais ar flaenoriaethu materion mynediad a thegwch. Er bod y newid torfol i gyflwyno cyrsiau ar-lein wedi creu rhwystrau newydd i rai myfyrwyr a chyfadrannau, daeth yn amlwg yn fuan fod addysgu a dysgu mewn cyd-destun ar-lein yn dileu rhwystrau i eraill. Mae datblygu iaith gyffredin ar gyfer disgrifio gwahanol ddulliau o ddarparu cyrsiau yn hwyluso gwell cydweithredu ymhlith cyfadrannau, llunwyr penderfyniadau sefydliadol a llunwyr polisi, er mwyn gwella ansawdd, hygyrchedd ac arloesedd o fewn profiadau dysgu ôl-uwchradd.