Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

9 Ebrill 2019


Dyma a olygwn wrth sôn am sicrhau ansawdd 'Addysg Uwch y DU'





James Harrison
Swyddog Polisi, QAA

Mae pobl yn defnyddio llawer ar y term 'Addysg Uwch y DU' ond, mewn system ddatganoledig, beth mae'r term yn ei olygu mewn gwirionedd mewn perthynas â sicrhau ansawdd?


Sefydlwyd QAA yn 1997 a, heddiw, ni yw corff annibynnol y Deyrnas Unedig ar gyfer sicrhau ansawdd addysg uwch ymhob un o'i phedair gwlad. Yn y blynyddoedd ers 1997, cafwyd newidiadau sylfaenol yn y ffordd y mae polisïau ac arferion ym maes addysg uwch yn gweithio, wrth i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu llywodraethau datganoledig eu hunain.


Er enghraifft, o ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan Senedd a Llywodraeth ddatganoledig yr Alban, mae myfyrwyr a aned yn yr Alban sy'n astudio mewn prifysgolion yn yr Alban yn derbyn cyllid i ariannu eu costau dysgu, ond nid yw hyn yn wir i fyfyrwyr a aned yn Lloegr sy'n astudio yn Lloegr.


Mae'r gwahaniaethau yma'n berthnasol hefyd i ddulliau sicrhau ansawdd. Yn Lloegr, er enghraifft, mae'r fframwaith rheoleiddio newydd yn defnyddio system sicrhau ansawdd sy'n ystyried risgiau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sydd wedi'i llunio i leihau'r baich rheoleiddiol, lle nad yw'r darparwyr yn cael eu hadolygu'n ffurfiol yn rheolaidd. Yn yr Alban, ar y llaw arall, mae pob prifysgol yn derbyn ymweliad adolygu gan QAA yn gylchol, bob pedair neu bum mlynedd.


Fel corff y Deyrnas Unedig ar gyfer sicrhau ansawdd addysg uwch, rydym felly'n darparu dulliau sydd wedi'u teilwra i bob un o'r pedair gwlad, ac yn sail i'r rhain mae ein gwaith drwy'r DU gyfan o dan system ryngberthynol o sicrhau ansawdd. Sut ydyn ni'n gwneud hynny felly?


Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU


Cod Ansawdd Addysg Uwch y DU yw un o'r prif sylfeini. Mae'r Cod yn bwynt cyfeirio allweddol ar gyfer Addysg Uwch y DU: mae'n diogelu buddiannau'r myfyrwyr a'r cyhoedd, ac mae'n hyrwyddo enw da addysg uwch y DU am fod ymysg y gorau yn y byd. 


Rydym yn rheoli'r Cod, a gafodd ei adolygu'n ddiweddar mewn partneriaeth â'r sector. Mae'r Cod adolygedig yn cynnwys nifer o elfennau: Disgwyliadau ac Arferion Craidd sy'n ofynnol gan bob un o'r darparwyr; Arferion Cyffredin sy'n canolbwyntio ar welliant; a chyngor a chyfarwyddyd ychwanegol ar 12 Thema i gefnogi'r darparwyr ymhellach. Cafwyd mwy na 1,670 o gyfraniadau unigol gan gydweithwyr o bob cwr o'r DU at y broses hon i symleiddio a gwella'r Cod er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fynegi barn ein sector cyfan yn y DU am ystyr ansawdd a safonau, ac yn ateb anghenion pedair gwlad y DU.



Y system ryngberthynol o sicrhau ansawdd


Dyma'r gwerthoedd allweddol y mae pedair gwlad y DU yn unedig yn eu cefnogaeth ohonynt:

  • Ymrwymiad i ragoriaeth.
  • Gweithdrefnau mewnol ar gyfer sicrhau ansawdd.
  • Trefniadau allanol ar gyfer sicrhau ansawdd, os gofynnir amdanynt.
  • Cynnwys y myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw.
  • Gwybodaeth gyhoeddus (am y ddarpariaeth, ansawdd, trefniadau dysgu ac addysgu).
  • Craffu ar bwerau i ddyfarnu graddau.

Mae hefyd ofynion rheoleiddiol sylfaenol y mae'r sectorau addysg uwch yn cadw atynt. Er bod rhai gofynion yn canolbwyntio ar wledydd penodol o fewn y DU, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn berthnasol i'r DU gyfan. Dyma'r gofynion sylfaenol sy'n berthnasol i'r DU gyfan:

  • Y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch gan Gyrff Dyfarnu Graddau'r DU
    - Mae'r rhain yn nodi gwahanol lefelau'r cymwysterau addysg uwch a'r gofynion ar gyfer pob un o'r rhain. Mae un fframwaith i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ac un ar wahân i'r Alban, ac mae'r ddau wedi'u cyfuno mewn un cyhoeddiad.
  • Y codau llywodraethu perthnasol ar gyfer addysg uwch.
    - Mae'r codau hyn yn amlinellu'r ffyrdd y dylai darparwyr addysg uwch gael eu llywodraethu'n effeithiol..
  • Y Disgwyliadau a'r Arferion Craidd sydd yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU.
  • Dyletswyddau perthnasol y darparwyr o dan y ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr.
  • Y fframwaith ar gyfer ymdrin â chwynion ac apeliadau academaidd.

Poster newydd: system ymatebol ar gyfer sicrhau ansawdd addysg uwch ar draws y DU


Yng nghyd-destun y newidiadau niferus diweddar i bolisïau ledled y DU, rydym wedi llunio poster i egluro beth sy'n digwydd ymhle, a beth sy'n ein huno ni fel 'Addysg Uwch y DU'. Mae hyn hefyd yn ymateb i'r adborth sydd wedi ein cyrraedd gan gydweithwyr tramor a fynegodd ddryswch ynglŷn â'r newidiadau hyn.



Yng nghyd-destun y newidiadau niferus diweddar i bolisïau ledled y DU, rydym wedi llunio poster i egluro beth sy'n digwydd ymhle, a beth sy'n ein huno ni fel 'Addysg Uwch y DU'. Mae hyn hefyd yn ymateb i'r adborth sydd wedi ein cyrraedd gan gydweithwyr tramor a fynegodd ddryswch ynglŷn â'r newidiadau hyn.