Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

24 Ebrill 2019


Cerdyn post o'n Fforwm Cyrff PSR diweddaraf




Maureen McLaughlin
Pennaeth Prifysgolion a Safonau, QAA


Beth yw ystyr yr acronym Saesneg 'PSRB' (ni ddylid ei ddrysu gyda PBSR, y cerddor Sbaenaidd)? I'r rheiny ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â'r term yma, mae'r cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio (cyrff PSR) yn grŵp amrywiol sy'n cynnwys cyrff proffesiynol, cyrff rheoleiddio a'r rheiny sydd â'r awdurdod statudol dros broffesiwn penodol.


Ers pum mlynedd bellach, rydym wedi bod yn cynnal Fforwm Cyrff PSR hynod boblogaidd ddwywaith y flwyddyn. Cynhaliwyd y digwyddiad diweddaraf ddiwedd mis Mawrth yn Bloomsbury yng nghanol Llundain, a daeth mwy na 70 o gynrychiolwyr iddo o gyrff PSR a darparwyr addysg uwch.

Mae cyrff PSR yn chwarae rôl yn y sector addysg uwch drwy gymeradwyo, cydnabod ac achredu rhaglenni addysg uwch. Nod ein digwyddiadau yw rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, a thrafod materion a heriau cyfredol.


Y tro hwn, clywsom gan Lily Lipman a Dr Linda Prescott-Clements o Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) am brofiad cathartig a grymusol eu hachrediad llwyddiannus diweddar gan Gymdeithas Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch Ewrop (ENQA). Roedd hi'n arbennig o anogol cael clywed am yr ysgogiad a roddodd hwn i wella ymgysylltiad y myfyrwyr drwy Goleg Brenhinol y Milfeddygon cyfan. Roedd hi'n bleser gan QAA gymryd rhan yn yr ymarfer hwn fel un o'r rhanddeiliaid allanol.


Yn nes ymlaen, aeth Zara Green, Rheolwr y Ganolfan Cymwysterau Proffesiynol yn NARIC y DU, ati i rannu ystyriaethau amserol ar oblygiadau Brexit i gydnabyddiaeth broffesiynol. Clywsom am wahanol effeithiau Brexit (p'un a chafwyd cytundeb ai peidio), heriau'r ddwy sefyllfa, yn ogystal â'r camau a gymerwyd yn barod i roi systemau ar waith i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol.


Clywsom hefyd gan Alan Jones, darpar Lywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), a drafododd ofynion, pwysau a blaenoriaethau'r sector addysg uwch a phroffesiwn y penseiri yn y DU. Cawsom ein herio gan Alan hefyd i wneud y defnydd gorau posib o Ddatganiadau Meincnodi Pwnc fel grym positif ar gyfer cynnal safonau uchel.


Yn y digwyddiad hwn, aethom ati i siarad am ystod o ddatblygiadau sy'n effeithio ar QAA, gan gynnwys effaith cael ei dewis fel y corff sicrhau ansawdd dynodedig i Loegr, ein symudiad sydd ar y gweill tuag at fodel aelodaeth, ein gwaith i gefnogi addysg uwch mewn prentisiaethau a phwysigrwydd cynyddol llais y prentis mewn perthynas â sicrhau ansawdd y ddarpariaeth, a'r gwaith arfaethedig ar Ddatganiadau Meincnodi Pwnc.


Mae'r Fforwm Cyrff PSR yn blatfform rhagorol i gyfnewid gwybodaeth ac, mewn digwyddiadau blaenorol, ymunwyd â ni gan gydweithwyr o sefydliadau eraill neu adrannau eraill y llywodraeth, oedd yn ceisio barn cymuned y cyrff PSR am ddatblygiadau pwysig mewn polisïau. Rydym hefyd wedi ffurfio perthynas waith gadarnhaol gyda Rhwydwaith Ymchwil y Cymdeithasau Proffesiynol (PARN), sef sefydliad aelodaeth i gyrff proffesiynol, sy'n cynnig ei arbenigedd a'i farn am faterion allweddol yn y sector trwy lens ymchwil, rhwydweithio a hyfforddi.


Mae'r Fforwm yn parhau i dywys y rheiny sydd â diddordeb yn rôl bositif y cyrff PSR yn nhirlun sicrhau ansawdd addysg uwch y DU, yng nghyfnewidiad y dirnadaethau am yr heriau sy'n ein wynebu ni i gyd, a'r arferion da a ddatblygwyd.


Rydym yn bwriadu cynnal ein digwyddiad nesaf ym mis Tachwedd 2019, a byddwn yn datblygu'r agenda nesaf ar y cyd gyda'n cydweithwyr mewn cyrff PSR dros y misoedd nesaf. Os hoffech ragor o wybodaeth am ein Fforymau, mae croeso i chi gysylltu ag Amy Spencer yn QAA