Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae aelodau ein Bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth eang o ddiddordebau ym maes addysg uwch a thu hwnt. Mae nifer o'r aelodau'n cael eu penodi oherwydd eu profiad ym myd diwydiant, masnach, cyllid neu'r proffesiynau, ac mae gennym ddau aelod ar ein Bwrdd sy'n fyfyrwyr. Mae gennym hefyd aelodau sydd wedi eu penodi gan gyrff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg uwch y DU, a gan y cynghorau cyllido addysg uwch.


Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio cyfeiriad strategol QAA, ei gwaith o ddatblygu polisïau, ei chyllid a'i pherfformiad. Mae'n gweithredu yn unol â Chod Arferion Gorau.



Cadeirydd y Bwrdd

Yr Athro Simon Gaskell

Yr Athro Simon Gaskell yw Cadeirydd Bwrdd QAA. Mae ganddo raddau o Brifysgol Bryste ac mae wedi cael gyrfa academaidd yn y DU ac yn UDA.

Yr Athro Nic Beech

Yr Athro Nic Beech yw Is-Ganghellor Prifysgol Middlesex, a chyn hynny roedd yn Is-Bennaeth ym Mhrifysgol St Andrews a Phrofost Prifysgol Dundee.

Chloe Field

Mae Chloe wedi bod yn Is-lywydd (Addysg Uwch) Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ers mis Gorffennaf 2022.

Yr Athro Rachid Hourizi

Yr Athro Rachid Hourizi yw Cyfarwyddwr yr Institute of Coding ers ei lansio ym mis Ionawr 2018.

Richard Khaldi

Richard Khaldi yw Cyfarwyddwr y Siambr ar gyfer Siambrau Maitland, un o siambrau Bargyfreithwyr amlycaf y DU.

Xenia Levantis

Mae Xenia Levantis yn astudio ar lefel ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bryste, lle mae wrthi'n cwblhau gradd PhD 1+3 mewn Polisi Cymdeithasol.

Yr Athro Karl Leydecker

Mae'r Athro Karl Leydecker FRSE wedi bod yn Uwch-Is-Bennaeth ym Mhrifysgol Aberdeen ers mis Mawrth 2019

Yr Athro Sue Rigby

Mae'r Athro Sue Rigby wedi bod yn Is-Ganghellor Prifysgol Sba Caerfaddon ers mis Ionawr 2018.

Dani Saghafi

Mae Dani yn Gymrawd Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig, ac mae’n gwasanaethu ar y Senedd ac fel Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Brunel, Llundain.

Yr Athro John Sawkins

Mae'r Athro John Sawkins yn Ddirprwy Is-Ganghellor/Dirprwy Bennaeth (Dysgu ac Addysgu) ym Mhrifysgol Heriot-Watt.

Yr Athro Oliver Turnbull

Mae'r Athro Oliver Turnbull yn Ddirprwy Is-Ganghellor ac Athro mewn Niwroseicoleg ym Mhrifysgol Bangor.