Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

I fod yn ddilys, rhaid i raddau'r DU gael eu dyfarnu gan brifysgol neu gorff dyfarnu graddau arall sydd wedi ei gymeradwyo'n gyfreithiol ac sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am safonau academaidd ac ansawdd y cymhwyster. Mae'r union drefniadau ar gyfer penderfynu rhoi pwerau dyfarnu graddau'n dibynnu ar ba ran o'r DU y mae'r sefydliad sy'n gwneud cais wedi ei seilio ynddi.

 

Mae ein canllaw'n rhoi trosolwg o'r mathau o bwerau dyfarnu graddau ac yn esbonio'r hyn mae'r pwerau yma'n ei olygu, pwy allai wneud cais amdanynt, a sut y cadarnheir bod yr ymgeisydd yn briodol. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr hawl i gael ei galw'n brifysgol ('teitl prifysgol').

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr ddilyn y canllawiau perthnasol a bodloni'r meini prawf penodol, ac mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau i'r corff llywodraethol perthnasol, neu i'r Swyddfa Myfyrwyr yn Lloegr, yn dibynnu ar leoliad sefydliad yr ymgeisydd penodol yn y DU. Mae ein llawlyfrau cyhoeddedig yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion a'r broses ymgeisio.

 

Rydym yn codi ffi am wneud cais, a dylid talu hon wrth gyflwyno'r cais. Bydd ffi arall i'w thalu os bydd y cais yn symud ymlaen at y cam craffu llawn. Mae'r ffioedd hyn yn talu costau proses arferol o graffu a grëwyd hyd at, ac yn cynnwys, adroddiad terfynol y tîm craffu. Os crëir unrhyw wariant ychwanegol yn rhan o'r gwaith craffu manwl, efallai y codir ffi ychwanegol i dalu'r costau. Mae rhagor o fanylion am ffioedd i'w gweld yn y llawlyfr perthnasol am bwerau dyfarnu graddau sydd ar gael yn ein hadran 'Canllawiau a meini prawf'.

 

Ein proses o asesu ceisiadau


Rhoddir y ceisiadau inni sy'n bodloni'r gofynion. Os oes rheswm i fwrw ymlaen â chais, bydd yn cael ei brofi'n fanwl gan dîm a benodir yn arbennig a fydd yn ymweld â'r sefydliad ac yn adolygu'r dystiolaeth dros gyfnod estynedig o amser. Ar sail ystyriaeth y Pwyllgor Cynghori ar Bwerau Dyfarnu Graddau o adroddiad y tîm, byddwn yn cynghori a yw'r cais yn bodloni'r meini prawf perthnasol ai peidio.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran 'Canllawiau a meini prawf'.


Y Pwyllgor Cynghori ar Bwerau Dyfarnu Graddau (Pwyllgor CBDG)

Mae'r pwyllgor hwn yn ystyried ceisiadau am bwerau dyfarnu graddau a/neu deitl prifysgol. Mae hefyd yn goruchwylio'r meini prawf a'r prosesau craffu a ddefnyddir i asesu ceisiadau. Mae'r pwyllgor yn cynnwys aelodau'r Bwrdd ac aelodau allanol eraill ac mae'n cyfarfod unwaith y chwarter.