English
Skip navigation

Adroddiadau Adolygiad Sefydliadol

Er mwyn chwilio am adroddiadau Adolygiad Sefydliadol, defnyddiwch y cyfleuster chwilio Rhestr fesul math.

Efallai bod gennych hefyd ddiddordeb mewn:

Adborth ar ymgynghoriad ar y llawlyfr newydd drafft

Ein gwaith yng Nghymru

Cynllun Iaith Gymraeg

Sut i ddod yn adolygydd

Adolygiad Sefydliadol: Cymru

Mae'r dudalen yma'n disgrifio sut y byddwn yn gwirio trefniadau sicrhau ansawdd addysg uwch yng Nghymru.

Beth ydyw

Rydym yn defnyddio adolygiad sefydliadol i adolygu pa mor effeithiol y mae'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru'n rheoli ansawdd a safonau eu darpariaeth academaidd o 2009-10. Mae adolygiadau'n digwydd ar raglen dreigl a chânt eu gweithredu gan dîm o bum adolygwr.

Cyhoeddir adroddiad ar adolygiad bob sefydliad. Mae'r adroddiadau'n cynnwys sylwadau ynghylch yr hyder y gellir ei roi yn systemau sicrhau ansawdd y sefydliad ei hun. Maent hefyd yn cynnwys y nodweddion sy'n arferion da a'r argymhellion ar gyfer gweithredu ymhellach. Fel rhan o'n Cynllun Iaith Gymraeg, cyhoeddir pob adroddiad yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Sut mae'n gweithio

Mae gan holl aelodau'r timau adolygu brofiad diweddar o reolaeth academaidd a sicrhau ansawdd mewn addysg uwch yn y DU. Mae'r timau'n edrych ar wybodaeth a ddarperir gan y sefydliad a gan ei fyfyrwyr, ac yna'n ymweld â'r sefydliad dros gyfnod o wythnos pan fyddent yn cyfarfod â'r staff a'r myfyrwyr.

Mae'r tîm hefyd yn defnyddio pwyntiau cyfeirio safonol, sef y Seilwaith Academaidd. Mae'r Seilwaith Academaidd yn gyfrwng i osod trothwy disgwyliadau gofynnol ledled y DU. Mae'n cynnwys:

Gwybodaeth fanwl

Mae gwybodaeth fanylach am yr Adolygiad Sefydliadol yn y dogfennau canlynol:

Gwybodaeth arall

Adolygiad datblygiadol o addysg uwch a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach: Cymru
Canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer arferion effeithiol wrth arholi ac asesu mewn iaith heblaw iaith y dysgu
Mynediad i addysg uwch
Ein gwaith yng Nghymru

Canlyniadau o Adolygiad Sefydliadol

Fel rhan o'n gwaith gwella, rydym wedi cyhoeddi cyfres fer o bapurau Canlyniadau o Adolygiad Sefydliadol, sy'n defnyddio canfyddiadau'r adroddiadau Adolygiad Sefydliadol. Mae'r gyfres yn cynnwys y 12 adroddiad adolygiad a gyhoeddwyd rhwng 2004 a 2009.

Archif