Yn gywir
![]()
Peter Williams
Prif Weithredwr
|
Rhif |
CL06/09 |
| Pwnc | Llawlyfr drafft ar gyfer y broses adolygiad sefydliadol ddiwygiedig i addysg uwch yng Nghymru o 2009-10 |
| Dyddiad cyhoeddi | 15 Mai 2009 |
| Derbynwyr | Penaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Addysg Uwch Cymru; Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC); APADGOS; Estyn; Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru; Penaethiaid colegau addysg bellach yng Nghymru |
| Gwybodaeth bellach | Julian Ellis |
| Dyddiad ymateb |
Dydd Llun 29 Mehefin 2009 |
| Ymatebion i | |
| Atodiadau | Llawlyfr drafft ar gyfer adolygiad sefydliadol: Cymru (yn Saesneg yn unig) |
Annwyl Gyfeillion
Llawlyfr drafft ar gyfer y broses adolygiad sefydliadol ddiwygiedig i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru o 2009-10
Ym mis Medi 2008, cyhoeddodd CCAUC ddogfen ymgynghori ar yr egwyddorion craidd, y gofynion cyffredinol a'r nodweddion allweddol sydd i gael eu mabwysiadu ar gyfer yr Adolygiad Sefydliadol o 2009-10 (W08/31HE, mae ar gael ar wefan CCAUC). Yn dilyn yr ymgynghoriad, cytunodd Gweithgor Ansawdd CCAUC ar gyfres o argymhellion i ASA eu hystyried wrth ddatblygu'r broses adolygiad sefydliadol ddiwygiedig.
Rwy'n ysgrifennu nawr i geisio eich barn am y llawlyfr drafft sydd wedi'i amgáu ar gyfer y broses adolygiad sefydliadol ddiwygiedig.
Dyma'r prif newidiadau i'r broses gyfredol:
Bydd fersiwn y llawlyfr a fydd wedi'i gytuno'n derfynol ar gael yn ddwyieithog.
Fyddech chi cystal ag anfon unrhyw sylwadau sydd gennych ar bapur neu'n electronig, yn ôl eich dewis chi. Dylech anfon bob ymateb at fy nghydweithiwr, Julian Ellis (j.ellis@qaa.ac.uk) yn ASA, Southgate House, Southgate Street, Caerloyw GL1 1UB. Unrhyw sylwadau i gyrraedd erbyn Dydd Llun Mehefin 29 2009 fan bellaf os gwelwch yn dda.
Yn gywir
![]()
Peter Williams
Prif Weithredwr
Home |
Contact us |
Site map |
Privacy statement |
Publications |
QAA updates |
QAAtweets |
QAAtube |
English
