English
Skip navigation

Sicrhau a gwella ansawdd yng Nghymru - darlun sy'n newid?

Dyddiad: Dydd Gwener, 23 Hydref 2009
Lleoliad: Gwesty'r Metropole, Llandrindod

Cynhadledd un dydd ar Sicrhau a gwella ansawdd yng Nghymru - darlun sy'n newid? wedi'i threfnu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch a'r Academi Addysg Uwch. Mae'r gynhadledd hon ar gyfer staff darparwyr addysg uwch yng Nghymru sydd â diddordeb mewn sicrhau a gwella ansawdd.

Mae'r gynhadledd yn elfen arwyddocaol o'r cyd-brosiect ar sicrhau ansawdd a gwella. Mae'n adeiladu ar brosiect tebyg a gafwyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2008 (gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr). Bydd y gynhadledd yn cyflwyno canfyddiadau'r prosiect i'w trafod, ei nodau yw:

  • cefnogi sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wrth iddynt ystyried pwrpas a rôl gwelliant
  • archwilio sut y caiff gwella ansawdd ei gysyniadu ar draws y sector addysg uwch yng Nghymru
  • rhoi cyfleoedd i bobl rannu gwahanol ddulliau o wella ansawdd ac arferion cyfredol
  • rhoi gwybod am y ffyrdd gorau o gefnogi sefydliadau yng Nghymru yn nhermau gwella ansawdd
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gefnogi gwella cyfleoedd dysgu yng Nghymru.

Rhaglen ddrafft

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan yr Academi Addysg Uwch ar www.heacademy.ac.uk/events