Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Ystadegau Allweddol 2016-17 ar Fynediad i AU

Dyddiad: Mai 31 - 2018
Y llynedd, cychwynnodd 24,895 o'r myfyrwyr sydd â Diploma Mynediad i AU ar raglen gradd neu raglen addysg uwch arall yng Nghymru a Lloegr – o'i gymharu â 24,180 yn y flwyddyn flaenorol.

Mae'r cymhwyster yn dal i gefnogi'r ymdrech i ehangu mynediad i addysg uwch:
  • Roedd 87% o'r myfyrwyr sydd â Diploma Mynediad i AU dros 21 oed, o'i gymharu â 34% o'r myfyrwyr sydd â chymwysterau eraill.
  • Daeth 22% o'r myfyrwyr Mynediad i AU o ardaloedd sydd â chyfranogaeth isel, o'i gymharu â 10% o'r myfyrwyr sydd â chymwysterau eraill.
  • Roedd 32% o'r myfyrwyr Mynediad i AU o leiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 24% o'r myfyrwyr sydd â chymwysterau eraill.
  • Roedd gan 18% o'r myfyrwyr Mynediad i AU anabledd neu anhawster dysgu, o'i gymharu ag 11% o'r myfyrwyr sydd â chymwysterau eraill.
Fodd bynnag, mae'r cofrestriadau ar draws y pynciau i gyd wedi gostwng o 10% (38,025 yn 2016-17, i lawr o 42,405 y flwyddyn gynt). Mae'r cofrestriadau ar gyrsiau Diploma Mynediad i AU i wneud gradd nyrsio a chyrsiau eraill ym maes gofal iechyd wedi gostwng o 18% o fewn cyfnod o flwyddyn (20,050 yn 2016-17, i lawr o 24,346).

Er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr, mae cyrsiau yn y meysydd astudio sy'n gysylltiedig ag iechyd, gofal a gwasanaethau cyhoeddus yn parhau'n boblogaidd, ac yn dal i gyfrif am fwy na hanner (53%) y cofrestriadau ar gyrsiau Diploma.

I weld yr ystadegau llawn, ewch i'r wefan Diploma Mynediad i AU.