Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Croeso i wefan newydd sbon QAA

Dyddiad: Mehefin 21 - 2018
Pan fydd sefydliad yn ailddatblygu ei wefan, mae'n beth mawr i'r staff. Ond i chi'r darllenwyr, mae'n debyg mai'r cwbl rydych ei eisiau yw gwefan sy'n gweithio ac sy'n cael ei diweddaru'n gyson. Dim ffwdan.

Er hynny, rydym eisiau dathlu lansio ein gwefan newydd, er mai dathliad cymedrol fydd e. Ein gwefan yw ein ffordd bennaf o gyfathrebu gyda'r bobl hynny sy'n gweithio i sicrhau a gwella ansawdd a safonau addysg uwch yn y Deyrnas Unedig a thramor. Wrth i'n sector addysg uwch barhau i ddatblygu ac arloesi, mae'n bwysig bod ein gwefan yn datblygu ar yr un cyflymder ag o.

Dylech gael y wefan newydd yn haws ei llywio nag o'r blaen a bydd yn ymateb i ba dechnoleg bynnag a ddefnyddiwch i'w gweld hi. Mae ei nodweddion yn ei gwneud hi'n haws i ni gyflawni ein hymrwymiadau i'r Gymraeg.

Rydym yn lansio mwy na dim ond prif wefan QAA heddiw. Am y tro cyntaf erioed, mae gan QAA Scotland ei gwefan ei hun. Ac ar ran Pwyllgor Gwella Addysg Uwch yr Alban, rydym hefyd wedi ail ddatblygu'r wefan Themâu Gwelliant a fydd yn lansio mewn ychydig wythnosau.

Bydd rhai pethau wedi symud, a bydd angen i chi ddiweddaru eich nodau tudalen. Ymddiheurwn am unrhyw ffwdan. Byddem wrth ein boddau'n derbyn adborth gennych