ASA Cymru
Mae ASA yn gweithio'n agos ag amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru i sicrhau bod ansawdd a safonau academaidd wedi'u cynnal a'u cadw mewn sefydliadau Cymreig. Mae ein tîm ymroddedig, Tîm Cymru, yn monitro, yn gwerthuso ac yn darparu adroddiadau am ein holl weithgareddau yng Nghymru.
Mae'r adran yma'n rhoi manylion am ein gweithgareddau adolygu yng Nghymru, ein cyfathrebiad Cymraeg, a dolenni defnyddiol at sefydliadau partner, adrannau perthnasol eraill o'n gwefan a gwasanaethau cyfieithu Cymraeg.
Gweithgareddau adolygu yng Nghymru
- Adolygiad Sefydliadol yw'r broses adolygu ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
- Adolygiad Datblygiadol ac Adolygiad Crynodol yw'r prosesau adolygu ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru sy'n darparu addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol.
- Mynediad i Addysg Uwch (ar gael yn y Saesneg yn unig): Mae ASA yn trwyddedu Asiantaethau Dilysu Mynediad (AVA) i gydnabod rhaglenni Mynediad i Addysg Uwch, ac i ddyfarnu tystysgrifau a diplomâu i fyfyrwyr. Mae ASA yn adolygu'r AVA yng Nghymru – Agored Cymru (sef Rhwydwaith Coleg Agored Cymru gynt).
Y Cynllun Iaith Gymraeg
Ein hegwyddor wrth wneud ein gwaith yng Nghymru yw y byddwn yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal. Edrychwch ar ein Cynllun Iaith Gymraeg i gael rhagor o wybodaeth.
Mae ASA yn cyflwyno adroddiadau monitro blynyddol am y Cynllun Iaith Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt, hyd fis Mawrth 2012).
Gweithio gyda myfyrwyr
Mae gwybodaeth i fyfyrwyr am adolygiadau gan ASA yng Nghymru, a sut y gallent gyfranogi yn y broses adolygu, ar gael yn adran y Myfyrwyr (ar gael yn y Saesneg yn unig).
Aelodaeth myfyrwyr ar dimau Adolygiad Sefydliadol
Mae pob un o'n timau Adolygiad Sefydliadol yng Nghymru'n cynnwys aelod sy'n fyfyriwr (ar gael yn y Saesneg yn unig), fel rhan o'n dull strategol ehangach o gynnwys myfyrwyr yn y broses o sicrhau a gwella ansawdd eu haddysg uwch.
Menter Ymgysylltu â Myfyrwyr Cymru
Mae Menter Ymgysylltu â Myfyrwyr Cymru (MYMC) yn ymagwedd sy'n cynnwys myfyrwyr fel cyfranogwyr gweithredol yn y gwaith o arwain, rheoli, datblygu a darparu eu profiad addysgol eu hunain. Mae MYMC yn nodwedd ddiffiniol o addysg bellach ac uwch yng Nghymru, a'i nod yw sicrhau bod Cymru'n parhau yn flaengar wrth ymgysylltu â myfyrwyr. Mae MYMC yn fenter ar y cyd gan:
- ASA
- UCMC
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
- yr Academi Addysg Uwch Cymru (AAU)
- Colegau Cymru.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech drafod gwaith ASA yng Nghymru ymhellach, cysylltwch â Dr Julian Ellis, Pennaeth ASA Cymru, os gwelwch yn dda, ar 01452 557127 neu e-bostiwch j.ellis@qaa.ac.uk.
Mae ASA yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd. I siarad â ni yn y Gymraeg, ffoniwch 029 2048 5963 os gwelwch yn dda.