We use cookies on this website. If you continue to use the website, we will use cookies to maximise your experience and help us to improve.

To find out more about cookies, how we use them and how to remove them, see our privacy and cookies statement.
safeguarding standards and improving the quality of UK higher education

Rhestr termau

​Esboniad o dermau ASA​

Mae'r rhestr termau hon yn esbonio termau a ddefnyddir yn aml yn ein gwaith a'n cyhoeddiadau.

Cliciwch ar y llythyren/llythrennau priodol i ganfod yr esboniad yr ydych ei angen.

Mae'r eirfa hon hefyd ar gael yn Saesneg​​. This glossary is also available in English.

  • monitro blynyddol

    ​Gwirio proses neu weithgaredd bob blwyddyn i weld a ydyw'n cwrdd â'r disgwyliadau ynghylch safonau ac ansawdd.​

  • ​adolygiad dan arweiniad sefydliad

    Yn yr Alban, un o gyfres o adolygiadau a wneir gan y sefydliadau addysg uwch, yn dilyn arweiniad gan Gyngor Cyllido'r Alban (SFC) ac sy'n ymwneud â'r holl feysydd astudio, dros uchafswm o chwe blynedd. Y sefydliadau unigol sy'n penderfynu ar yr union ddull adolygu a ddefnyddir ond rhennir nodweddion penodol y cytunwyd arnynt ar draws y sector (ac maent wedi'u disgrifio yn arweiniad SFC). Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio pwyntiau cyfeirio allanol y cytunwyd arnynt, cyfranogaeth myfyrwyr, a defnyddio aelodau panel adolygu o sefydliad heblaw hwnnw sy'n cael ei adolygu.

  • ​clystyrau ymchwil

    Cymunedau o ymchwilwyr academaidd wedi eu grwpio ynghyd i hwyluso rhannu adnoddau a syniadau. Gallai'r trefniadau weithredu o fewn un darparwr addysg uwch neu gallent ddod ag ymchwilwyr at ei gilydd o nifer o ddarparwyr sy'n agos atynt yn ddaearyddol.

  • ​corff dynodedig

    Sefydliad sydd wedi'i benodi neu ei gydnabod yn ffurfiol i wneud swyddogaeth benodol. Mae ASA wedi'i chydnabod gan Fisâu a Mewnfudo'r DU fel corff dynodedig i bwrpas darparu goruchwyliaeth addysgol.

  • ​cymeradwyo rhaglenni

    Proses ffurfiol a ddefnyddir gan gorff dyfarnu graddau i benderfynu a yw rhaglenni astudio (o ran eu cynnwys, addysgu/dysgu ac asesiad) o safon ac ansawdd sy'n briodol i arwain at un o'i gymwysterau. Mae hyn yn berthnasol i raglenni a ddarperir yn uniongyrchol gan y corff dyfarnu graddau ac i raglenni a ddarperir mewn sefydliadau darparu.

  • ​cyrff rhestredig

    Sefydliadau yn y DU sydd heb bwerau i ddyfarnu eu graddau eu hunain ond sy'n darparu cyrsiau llawn sy'n arwain at radd gan gorff cydnabyddedig.

  • ​darparwr preifat

    Coleg annibynnol sy'n cynnig addysg uwch y DU ond nad yw'n derbyn arian cyhoeddus gan y cynghorau cyllido addysg uwch a gallent fod yn gweithredu i wneud elw neu fod â statws elusennol. Gweler hefyd darparwr amgen.

  • ​disgrifwyr cymhwyster

    Datganiadau generig am y prif gymwysterau ar bob lefel mewn fframwaith cymwysterau (er enghraifft, gradd baglor gydag anrhydedd, gradd meistr), sy'n disgrifio'r hyn y dylai myfyrwyr ei wybod, ei ddeall a/neu allu ei ddangos wrth dderbyn y cymhwyster hwnnw, a dangos esiamplau o'i nodweddion.

  • ​Noddwr Haen 4

    Sefydliad y mae Llywodraeth y DU yn ymddiried ynddo i roi lle i fyfyrwyr tramor sydd wedi mewnfudo, yn ôl Haen 4 system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau Fisâu a Mewnfudo'r DU. Mae'n rhaid i'r darparwyr addysg uwch sydd eisiau ennill y statws yma gael adolygiad gan ASA.

  • ​sefydliad

  • ​trefniant partneriaeth

    (Sef ‘trefniant cydweithredol’ gynt) Trefniant ffurfiol rhwng corff dyfarnu graddau a darparwr addysg uwch arall, yn caniatáu i'r olaf ddarparu addysg uwch ar ran y cyntaf, gan arwain fel arfer at ddyfarnu credyd, neu gymhwyster, gan y corff dyfarnu graddau. Ymhob achos o'r fath, mae'r corff dyfarnu graddau'n parhau'n gyfrifol am sicrhau bod Disgwyliadau'r Cod Ansawdd yn cael eu cyflawni.

  • achredu

    Proses o gadarnhau neu gymeradwyo rhaglen addysg uwch, neu ddarparwr, gan sefydliad allanol awdurdodedig. Gall rhaglenni gael eu hachredu gan gorff proffesiynol neu gorff rheoleiddio, megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • achredu dysgu ardystiedig blaenorol

    Adnabod, asesu a chydnabod yn ffurfiol y dysgu a'r cyflawniad a ddigwyddodd rywbryd yn y gorffennol cyn mynediad i gwrs astudio, ac y derbyniodd y dysgwr ryw fath o gydnabyddiaeth swyddogol amdano.
  • achredu dysgu blaenorol

    Adnabod, asesu a chydnabod yn ffurfiol y dysgu a'r cyflawniad a ddigwyddodd rywbryd yn y gorffennol (efallai o ganlyniad i gwrs blaenorol, astudiaeth hunangyfeiriedig, neu brofiad gweithredol), a gymerir i ystyriaeth wrth roi lle i fyfyriwr ar gwrs astudio.
  • achredu dysgu profiadol blaenorol

    Adnabod, asesu a chydnabod yn ffurfiol y dysgu a'r cyflawniad a ddigwyddodd rywbryd yn y gorffennol cyn mynediad i gwrs astudio, ond nid yng nghyd-destun addysg neu hyfforddiant ffurfiol.
  • addas i'r pwrpas

    (Yn cyfeirio at wybodaeth) Yn briodol yn nhermau'r hyn mae'r darparwr eisiau ei gyfathrebu ac anghenion gwybodaeth y gynulleidfa darged.
  • addasrwydd i arfer

    Yn gymwys a pharod, ac yn dangos sgiliau, ymddygiad, gwerthoedd a nodweddion priodol, i wneud rôl broffesiynol arbennig fel y mae wedi'i chydnabod gan y corff proffesiynol perthnasol.
  • addysg bellach

    Dysgu ffurfiol sy'n dilyn addysg orfodol, megis Safonau Uwch, NVQ a chyrsiau Mynediad i Addysg Uwch. Fel arfer mae angen rhyw fath o addysg bellach i gymhwyso ar gyfer mynediad i addysg uwch.
  • addysg drawswladol (TNE)

    Cyfleoedd dysgu mewn addysg uwch a ddarperir y tu allan i'r DU, ond sy'n arwain at ddyfarniad gan gorff dyfarnu graddau'r DU.

  • addysg gyrfaoedd

    Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad (IAG) sydd wedi'u bwriadu i helpu myfyrwyr gyda dewisiadau gyrfaol, a chynllunio a pharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ac addysg bellach neu hyfforddiant.
  • addysg uwch

    Addysg a ddaw ar ôl addysg uwchradd ac addysg bellach, sy'n arwain at gymhwyster neu gredyd a ddyfernir gan gorff dyfarnu graddau. Yn nodweddiadol, mae'n golygu gweithio tuag at radd, ond gallai rhai rhaglenni arwain at ddiploma, tystysgrif neu ddyfarniad neu gymhwyster arall ar y Fframweithiau cenedlaethol ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU (Fframweithiau Cymwysterau).

  • adolygiad

  • Adolygiad Addysg Uwch

    Y dull a ddefnyddir gan ASA i adolygu darparwyr addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn erbyn Disgwyliadau'r Cod Ansawdd. Darllenwch ragor.

  • adolygiad allanol

    Adolygiad a weithredir ar safle darparwr addysg uwch gan dîm o bobl sydd â'r cymwysterau priodol nad ydynt wedi'u cyflogi yno fel arfer. Gweler hefyd adolygiad dan arweiniad sefydliad.
  • Adolygiad Ansawdd a Gwelliant Integredig (IQER)

    Y dull a ddefnyddiwyd gan ASA hyd 2011-12 i adolygu darpariaeth addysg uwch mewn colegau addysg bellach yn Lloegr (a ddefnyddir yng Ngogledd Iwerddon hyd heddiw).
  • Adolygiad ar gyfer Addysg Uwch mewn Colegau (RCHE)

    Y dull adolygu a ddefnyddir gan ASA i wirio bod addysg uwch a ddarperir gan golegau addysg bellach yn cwrdd â Disgwyliadau'r DU sydd wedi'u nodi yn y Cod Ansawdd.
  • Adolygiad ar Gyfer Goruchwyliaeth Addysgol

    Adolygiad a weithredir gan ASA i bwrpasau goruchwyliaeth addysgol fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU, sy'n ymwneud â rhaglenni astudio addysg uwch a addysgir ar lefelau 4-7 yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac ar lefelau 7-11 yn yr Alban.
  • Adolygiad Crynodol

    Adolygiad ASA o ddarpariaeth addysg uwch a ddarperir mewn coleg addysg bellach, gyda chanfyddiadau a gyhoeddwyd. Mae fel arfer yn dilyn ymlaen o gam ymchwiliad cynharach a elwir yn Ymgysylltiad Datblygiadol.
  • adolygiad cyfnodol

    Adolygiad o un neu fwy o raglenni astudio, a wneir yn gyfnodol (unwaith bob pum mlynedd yn nodweddiadol), gan ddefnyddio pwyntiau cyfeirio sydd wedi'u cytuno'n genedlaethol, i gadarnhau bod y rhaglenni o safon academaidd ac o ansawdd priodol. Yn nodweddiadol, mae'r broses yn cynnwys arbenigwyr o ddarparwyr addysg uwch eraill.

  • adolygiad dan arweiniad sefydliad

    Yn yr Alban, un o gyfres o adolygiadau a wneir gan y sefydliadau addysg uwch, yn dilyn arweiniad gan Gyngor Cyllido'r Alban (SFC) ac sy'n ymwneud â'r holl feysydd astudio, dros uchafswm o chwe blynedd. Y sefydliadau unigol sy'n penderfynu ar yr union ddull adolygu a ddefnyddir ond rhennir nodweddion penodol y cytunwyd arnynt ar draws y sector (ac maent wedi'u disgrifio yn arweiniad SFC). Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio pwyntiau cyfeirio allanol y cytunwyd arnynt, ymgysylltiad myfyrwyr, a defnyddio aelodau panel adolygu o sefydliad heblaw hwnnw sy'n cael ei adolygu.
  • Adolygiad Sefydliadol (IR)

    Dull o adolygu a ddefnyddir gan ASA i sicrhau safonau ac ansawdd addysg uwch. Mae'r term yma'n dynodi'r broses sicrhau ansawdd sy'n berthnasol i sefydliadau yng Nghymru. O fis Medi 2011, bydd hefyd yn dynodi'r broses adolygu newydd a ddefnyddir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • Adolygiad Sefydliadol i Sicrhau Gwelliant (ELIR)

    Y dull a ddefnyddir gan ASA yn yr Alban i adrodd ar ansawdd a safonau academaidd mewn sefydliadau addysg uwch, ac sydd â llawer yn gyffredin gyda dulliau archwilio eraill ASA. Yn arbennig, mae ELIR yn archwilio'r ffyrdd mae sefydliadau'r Alban yn ceisio gwella'r profiadau dysgu y maent yn eu darparu i fyfyrwyr.
  • adolygwr

    Unigolyn a gyflogir gan ASA i fod yn rhan o'r tîm sy'n adolygu darparwr addysg uwch; bydd ef/hi yn weithiwr proffesiynol sydd â phrofiad cyfredol neu ddiweddar yn y sector addysg uwch, neu fyfyriwr cyfredol neu ddiweddar (sydd wedi cwblhau cwrs o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf).

  • adroddiad adolygiad

    Dogfen sy'n adrodd yn fanwl ar adolygiad.
  • ail farcio

    Ail gam o farcio gwaith myfyrwyr, a allai fod i bwrpasau gwirio, samplu neu safoni. Gweler hefyd marcio dwbl.

  • allanoldeb

    Defnyddio arbenigwyr o'r tu allan i ddarparwr addysg uwch, megis arholwyr allanol, i helpu gyda threfnau sicrhau ansawdd.
  • ansawdd academaidd

    Term cyffredinol sy'n cyfeirio at y ffordd mae darparwyr addysg uwch yn rheoli cyfleoedd dysgu ac addysgu, a pha mor dda maent yn eu rheoli, i helpu myfyrwyr i symud ymlaen a llwyddo.
  • Archwiliad o Ddarpariaeth Gydweithredol

    Proses a ddefnyddiwyd gan ASA hyd 2011 i asesu safonau academaidd ac ansawdd addysg uwch, a ddarperir drwy drefniant cydweithredol rhwng corff dyfarnu graddau yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon a sefydliad partner yn y DU neu yn rhywle arall (gweler trefniant cydweithredol). Yr unig amser y defnyddiwyd y broses hon oedd mewn sefyllfaoedd lle'r oedd y trefniadau cydweithredol yn rhy gymhleth i gael eu hadolygu drwy Archwiliad Sefydliadol arferol neu oedd wedi'i addasu ychydig.
  • Archwiliad Sefydliadol

    Y broses a ddefnyddiwyd gan ASA hyd 2011 i adrodd ar y ffordd, a pha mor dda, yr oedd sefydliadau addysg uwch yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn diogelu ansawdd a safonau eu rhaglenni.
  • arfer academaidd da

    Yn gweithio gyda gonestrwydd, yn osgoi llên-ladrad a mathau eraill o dwyll.
  • arfer da

    Proses neu ffordd o weithio sydd, ym marn tîm adolygu ASA, yn gwneud cyfraniad arbennig o bositif i safonau academaidd ac ansawdd, ac sy'n haeddu cael ei efelychu a'i ledaenu'n ehangach.

  • argymell

    Mae'r gweinydd wedi argymell prif gwrs i ni.

  • arholi allanol

    Y broses a ddefnyddir gan un neu fwy o arbenigwyr annibynnol (arholwyr allanol) i roi sylw ar gyflawniad myfyrwyr mewn perthynas â safonau academaidd sefydledig ac am agwedd y darparwr addysg uwch tuag at asesiad, gan felly helpu i sicrhau bod safonau'n gyson a gweithdrefnau asesu'n deg ledled y DU.
  • arholwr allanol

    Arbenigwr annibynnol a benodir gan sefydliad i roi sylwadau ar gyflawniad myfyrwyr mewn perthynas â safonau academaidd sefydledig ac i edrych ar ddulliau o ymdrin ag asesiad.
  • asesiad crynodol

    Asesiad ffurfiol o waith myfyrwyr, sy'n cyfrannu at y canlyniad terfynol.
  • asesiad diagnostig

    Gwerthusiad o ba mor barod yw dysgwr ar gyfer rhaglen benodol neu uned astudio sy'n rhan ohoni, gan ganfod unrhyw gryfderau, bylchau mewn gwybodaeth neu ddiffyg mewn dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol.
  • asesiad ffurfiannol

    Adborth am berfformiad myfyriwr, sydd wedi'i lunio i'w helpu i ddysgu'n fwy effeithiol a chanfod ffyrdd o gynnal a gwella eu cynnydd. Nid yw'n cyfrannu at farc, gradd neu ddosbarth terfynol y radd a roddir i'r myfyriwr.
  • asesiad synoptig

    Asesiad drwy dasg sy'n gofyn i fyfyrwyr dynnu ar wahanol elfennau o'u dysgu a dangos yr wybodaeth y maent wedi'i chasglu a dyfnder ac ehangder eu dealltwriaeth, yn ogystal â'r gallu i integreiddio a defnyddio eu dysgu.
  • baglor yn y celfyddydau (BA), baglor yn y gwyddorau (BSc)

    Gweler gradd baglor.
  • beirniadaeth o hyder

    Beirniadaeth gan un o dimau adolygu ASA mewn Archwiliad Sefydliadol y ‘gellir teimlo hyder yn rhesymol yng nghadernid rheolaeth bresennol sefydliad a'i reolaeth debygol yn y dyfodol ar safonau academaidd ei ddyfarniadau ac/neu ar ansawdd y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i'r myfyrwyr’ (dwy feirniadaeth ar wahân, un ar safonau a'r llall ar gyfleoedd dysgu). Ar y llaw arall, gallai'r tîm fynegi ‘hyder cyfyngedig’ neu ‘ddim hyder’ yn y materion hyn.
  • beirniadaethau gwahaniaethol

    (Mewn adolygiad gan ASA) Beirniadaethau ar wahân yn y drefn gywir ar gyfer y ddarpariaeth a ddilysir gan gyrff dyfarnu ar wahân.
  • campws cangen

    Campws coleg neu brifysgol sydd ar wahân i'r prif gampws neu'r campws cartref ac fel arfer mae'n llai.
  • canlyniadau dysgu

    Yr hyn y disgwylir i ddysgwr ei wybod, ei ddeall a/neu allu ei ddangos ar ôl cwblhau proses o ddysgu.
  • casglu credydau

    Ennill credyd academaidd dros amser, drwy gwblhau unedau astudio'n llwyddiannus, neu drwy achredu dysgu blaenorol, neu drwy gydnabod dysgu blaenorol.
  • Cod Ansawdd

    Term byr am God Ansawdd Addysg Uwch y DU, sy'n cael ei ddatblygu o 2011 i gymryd lle'r Seilwaith Academaidd a bydd yn cynnwys ei elfennau allweddol i gyd, ynghyd â phynciau ychwanegol a themâu trosfwaol.
  • Cod Ymarfer

    Y cod ymarfer ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd mewn addysg uwch, a gyhoeddir gan ASA: cyfres o ddogfennau rhyngberthynol sy'n rhoi arweiniad i ddarparwyr addysg uwch a oedd yn elfen graidd i'r Seilwaith Academaidd (sydd wedi'i disodli erbyn hyn gan y Cod Ansawdd).
  • cofnod astudio

    Cofnod manwl o astudiaethau myfyriwr, a roddwyd iddynt wedi iddynt gwblhau (neu ymadael â) rhaglen, sy'n rhoi tystiolaeth o'u cyflawniad gan gynnwys credyd a ddyfarnwyd a'r modiwlau a gwblhawyd yn llwyddiannus.

  • cofrestriad

    Gweler cofrestru.
  • cofrestru

    Y gweithdrefnau ffurfiol y mae'n rhaid i fyfyriwr eu cwblhau neu basio drwyddynt yn ystod y cyfnod derbyn, wedi iddynt gael eu derbyn ar gwrs a chyn ei gychwyn.
  • coleg mewnosodedig

    Sefydliad preifat, sy'n rhan o rwydwaith fel arfer, yn gweithredu o fewn neu gerllaw safle corff dyfarnu graddau, yn ymwneud fel arfer â pharatoi myfyrwyr ar gyfer mynediad i raglenni addysg uwch.
  • coleg prifysgol

    Coleg sy'n perthyn i brifysgol, neu sy'n gysylltiedig â phrifysgol, sydd heb yr hawl i ddyfarnu ei raddau ei hun

  • colegau addysg bellach

    Colegau, gan gynnwys colegau chweched dosbarth a cholegau arbenigol, sy'n darparu addysg bellach a hyfforddiant i ymadawyr ysgol ac oedolion (a adnabyddir hefyd fel sefydliadau addysg bellach yng Nghymru a Gogledd Iwerddon). Mae rhai colegau o'r math yma'n darparu rhaglenni addysg uwch hefyd sy'n arwain at gymwysterau o gyrff dyfarnu graddau eraill a/neu efallai bod ganddynt y pwerau i ddyfarnu Graddau Sylfaen.
  • conservatoire

    Sefydliad arbenigol ar gyfer hyfforddiant yn y celfyddydau perfformio (dawns, drama a cherddoriaeth).
  • corff dyfarnu

    Corff sydd wedi'i awdurdodi i ddyfarnu cymhwyster penodol; fel arfer, corff a gydnabyddir gan Ofqual i ddyfarnu cymwysterau wedi'u rheoleiddio gan Ofqual.

  • corff dyfarnu graddau

    Darparwr addysg uwch y DU (prifysgol fel arfer) sydd â'r pŵer i ddyfarnu graddau, ac mae'r pwerau yma wedi'u cyflwyno drwy Siarter Frenhinol, neu dan Adran 76 y Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, neu o dan Adran 48 y Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992, neu drwy Fwla Pabaidd, neu, ers 1999, drwy ddyfarniad y Cyfrin Gyngor ar gyngor ASA (mewn ymateb i geisiadau am bwerau dyfarnu graddau a addysgir, pwerau dyfarnu graddau ymchwil neu deitl prifysgol).

  • corff proffesiynol

    Sefydliad sy'n goruchwylio gweithgareddau proffesiwn penodol ac yn cynrychioli buddiannau ei aelodau.

  • corff rheoleiddio

    Sefydliad a gydnabyddir gan y llywodraeth fel un sy'n gyfrifol am reoleiddio neu gymeradwyo ystod arbennig o faterion.
  • corff statudol

    Sefydliad a sefydlir drwy Ddeddf Seneddol sydd â gofyniad cyfreithiol i oruchwylio proffesiwn penodol (er enghraifft, y Cyngor Meddygol Cyffredinol).
  • credyd(au)

    Ffordd o fesur a chydnabod dysgu, a ddefnyddir gan y mwyafrif o sefydliadau sy'n darparu rhaglenni astudio addysg uwch, wedi'i fynegi fel nifer o gredydau ar lefel benodol. Gweler hefyd lefel credyd, gwerth credyd, cynlluniau casglu a throsglwyddo credydau.

  • cwrs

    Rhaglen neu fodiwl astudio.
  • cwrs

    Gweler rhaglen neu fodiwl.

  • cwrs rhyngosod

    Rhaglen astudio sy'n cynnwys cyfnod sylweddol – blwyddyn fel arfer – a dreulir yn astudio i ffwrdd oddi wrth y brifysgol neu'r coleg (yn y gwaith fel arfer).
  • cwrs sylfaen

    Rhaglen astudio addysg uwch a lunnir i baratoi myfyrwyr ar gyfer cwrs ychwanegol nad oes ganddynt y cymwysterau mynediad arferol ar ei gyfer. Weithiau mae cyrsiau sylfaen yn gyfatebol â ‘Blwyddyn 0’ paratoadol cwrs gradd. Nid ydynt yr un fath â Graddau Sylfaen.
  • cydnabod dysgu blaenorol

    Asesu'r dysgu blaenorol sydd wedi digwydd mewn unrhyw un o amrywiaeth o gyd-destunau gan gynnwys yr ysgol, coleg a phrifysgol, a/neu drwy brofiadau bywyd a gwaith. Unwaith y bydd wedi'i gydnabod drwy'r broses hon, gellir defnyddio dysgu blaenorol i ennill credyd neu eithriad ar gyfer cymwysterau a/neu ddatblygiad personol a gyrfaol. Defnyddir y term yma'n bennaf mewn perthynas â system addysg uwch yr Alban, gyda'r term ‘achredu dysgu blaenorol’ yn cael ei ddefnyddio fel arfer yng ngweddill y DU.

  • cyfadran anfonedig

    Trefniant lle darperir rhaglen mewn lleoliad nad yw ar y prif gampws (mewn gwlad dramor fel arfer) gan staff o'r corff dyfarnu graddau. (Gallai staff lleol ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr.)
  • cyfleoedd dysgu

    Y ddarpariaeth a wneir ar gyfer dysgu myfyrwyr, gan gynnwys astudiaeth a gynlluniwyd, addysgu, asesiad, cymorth academaidd a phersonol, adnoddau (megis llyfrgelloedd a systemau gwybodaeth, labordai neu stiwdios).
  • cyflogadwyedd

    Cyfres o gyflawniadau, sgiliau, dealltwriaeth a nodweddion personol sy'n gwneud graddedigion yn fwy tebygol o gael swydd a bod yn llwyddiannus yn eu galwedigaethau dewisol.
  • cyflwyniad y myfyrwyr

    Adroddiad a gyflwynir gan fyfyrwyr yn un o ddarparwyr addysg uwch y DU, sydd i gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn adolygiad gan ASA.

  • cyfredol

    (Wrth gyfeirio at wybodaeth) Wedi'i diweddaru.
  • Cyfrin Gyngor

    Y corff llywodraethol lefel uchaf sy'n cynghori'r brenin/frenhines yn ffurfiol ar faterion penodol, gan gynnwys penderfyniadau ynglŷn â pha sefydliadau fydd yn derbyn teitl a statws prifysgol a/neu'n cael dyfarnu graddau.

  • cyfwerth ag amser llawn

    Mesur lle mae pob aelod o staff neu fyfyriwr rhan amser wedi'u mynegi fel ffracsiwn (neu ddegolyn) o aelod o staff neu fyfyriwr llawn amser, yr ystyrir y cyfanswm ar y cyd i bwrpasau cymharu a chyllido.
  • cyhoeddi

    Rhoi [gwybodaeth] yn eiddo i'r cyhoedd, gan ei chyhoeddi naill ai'n draddodiadol mewn print neu ar ffurf electronaidd – er enghraifft, ar wefan.
  • cyhoeddi

    Rhoi (gwybodaeth) yn eiddo i'r cyhoedd, gan ei chyhoeddi naill ai'n draddodiadol mewn print neu ar ffurf electronaidd – ar wefan.

  • cymhwyster

    Dyfarniad academaidd sy'n cael ei gydnabod yn ffurfiol, megis gradd, diploma neu dystysgrif, a roddir ar ôl cwblhau rhaglen astudio yn llwyddiannus.
  • Cymhwyster Meddygol Sylfaenol

    Gradd feddygol gyntaf a ddyfernir gan gorff neu gyfuniad o gyrff a gydnabyddir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i'r pwrpas yma, neu oedd â'r pŵer i gyhoeddi Cymwysterau Meddygol Sylfaenol ar y pryd pan ddyfarnwyd y radd.
  • cymorth

    Cymorth personol a chyfleusterau a systemau eraill a roddir yn eu lle i helpu myfyrwyr yn eu dysgu.
  • cymorth bugeiliol

    Help neu arweiniad, a roddir ar sail un-i-un fel arfer, sy'n ymwneud nid â materion academaidd ond gyda'r problemau personol ac emosiynol a allai godi yn ystod profiad addysg uwch y myfyriwr. Gweler hefyd cymorth dysgu.
  • cynghorau ymchwil

    Y saith sefydliad a ariennir gan y llywodraeth i gefnogi ymchwil mewn gwahanol ddisgyblaethau ac i gyllido ysgoloriaeth ymchwil i ymgeiswyr llwyddiannus sydd eisiau gwneud ymchwil academaidd ffurfiol.
  • cynllun marcio

    Fframwaith manwl ar gyfer aseinio marciau, lle rhoddir nifer benodol o farciau am rannau unigol o'r ateb.
  • cynlluniau casglu a throsglwyddo credydau

    Trefniadau o fewn a rhwng darparwyr addysg uwch sy'n galluogi i gredyd academaidd gael ei gasglu dros amser a'i drosglwyddo rhwng rhaglenni a/neu ddarparwyr.
  • cynllunio datblygiad personol

    Proses gyda chefnogaeth a strwythur a weithredir gan ddysgwyr i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain, eu perfformiad a/neu eu cyflawniad ac i gynllunio ar gyfer eu datblygiad personol, addysgol a gyrfaol.
  • cynnydd

    Cynnydd ffurfiol drwy raglen academaidd, sy'n cwrdd â gofynion academaidd allweddol.
  • cyrchfannau graddedigion

    Cyflogaeth, addysg barhaus neu alwedigaethau eraill y mae graddedigion yn anelu amdanynt yn dilyn cyfnod penodol o amser ar ôl cwblhau eu hastudiaethau'n llwyddiannus. Cesglir data drwy arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch.
  • cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio

    Cyrff sy'n gosod y safonau ar gyfer proffesiwn/broffesiynau penodol ac sy'n rheoleiddio mynediad i mewn i'r proffesiwn/proffesiynau ac sydd â'r awdurdod i achredu, cymeradwyo neu gydnabod rhaglenni penodol sy'n arwain at y cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol – y mae ganddynt gyfrifoldeb statudol neu reoleiddio amdano/amdanynt efallai.

  • cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio (PSRB)

    Cyrff sy'n gosod y safonau ar gyfer proffesiwn/broffesiynau penodol ac sy'n rheoleiddio mynediad i mewn i'r proffesiwn/proffesiynau ac sydd â'r awdurdod i achredu, cymeradwyo neu gydnabod rhaglenni penodol sy'n arwain at y cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol – y mae ganddynt gyfrifoldeb statudol neu reoleiddio amdano/amdanynt efallai. Gweler hefyd corff proffesiynol, corff statudol, corff rheoleiddio.
  • cyrff sy'n cael eu cydnabod

    Sefydliadau a gydnabyddir gan Lywodraeth y DU fel rhai sydd â hawl i ddyfarnu graddau a chymwysterau addysg uwch eraill.
  • cyrff sy'n cael eu rhestru

    Sefydliadau a gydnabyddir gan Lywodraeth y DU fel darparwyr addysg uwch ar ran cyrff sy'n cael eu cydnabod ac mae hawl ganddynt i recriwtio gwladolion y DU a myfyrwyr tramor.
  • Dangosydd

    Datganiad yn y Cod​ Ansawdd sy'n adlewyrchu arfer cadarn ac a ddefnyddir gan ddarparwyr i ddangos eu bod yn cyflawni'r Disgwyliad perthnasol.

  • darpariaeth

    Yng nghyd-destun addysg uwch, sicrhau bod cyrsiau ar gael i fyfyrwyr a rhoi cyfleo​edd dysgu iddynt drwy hynny.

  • darpariaeth gydweithredol

    ​Gweler trefniant cyd​weithredol
  • darparwr

  • darparwr amgen

    Term a ddefnyddir gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau i ddynodi darparwyr nad ydynt yn derbyn arian cyhoeddus.

  • darparwyr addysg uwch

    Sefydliadau sy'n darparu addysg uwch. Yn y DU, gallent fod yn gyrff dyfarnu graddau neu'n sefydliadau eraill sy'n cynnig rhaglenni addysg uwch ar ran un neu fwy o'r cyrff dyfarnu graddau.

  • datblygiad proffesiynol parhaus

    Rhaglenni hyfforddiant, rhai'n arwain at ddyfarn​iadau ffurfiol, i ymestyn gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth person sy'n berthnasol i gyflogaeth.

  • Datganiad Meincnod Pwnc

    Datganiad a gyhoeddwyd (yn rhan o'r Cod Ansawdd, Rhan A) sy'n nodi pa wybodaeth, dealltwriaeth, galluoedd a sgiliau a ddisgwylir gan y rheiny sy'n graddio ymhob un o'r prif feysydd astudio, ac sy'n esbonio beth sy'n rhoi ei gydlyniad a'i hunaniaeth i'r ddisgyblaeth arbennig honno. Mae'r datganiadau'n gyson gyda'r disgrifwyr cymhwyster generig perthnasol.

  • derbyn myfyrwyr gyda safle uwch

    ​Derbyn myfyrwyr i raglenni ar gam sy'n uwch na'r cam cychwynnol, a'r ddealltwriaeth yw bod myfyriwr sy'n cael mynediad felly wedi ei h/eithrio rhag gwneud rhan o'r rhaglen am fod modd ardystio neu ddangos tystiolaeth bod y dysgwr wedi gwneud dysgu blaenorol sy'n gyfatebol.

  • derbyniad(au)

    Y broses o wneud cais am gwrs (rhaglen astudio), a chael lle ar y cwrs. Mae gan ddarparwyr addysg uwch eu prosesau eu hunain sy'n llywio penderfyniadau am ddetholiad a mynediad. 

  • diffiniad gweithredol

    Diffiniad ffurfiol o derm, sy'n pennu yn union beth mae ASA yn ei olygu wrth ei ddefnyddio mewn adolygiadau ac adroddiadau.

  • dilysu

    Term a ddefnyddir gan rai cyrff dyfarnu graddau i olygu cymeradwyo rhaglenni.

  • diploma i raddedigion

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 6 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac ar lefelau 9-10 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban (9 ar gyfer graddau cyffredin, 10 ar gyfer graddau anrhydedd).

  • diploma israddedig

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 5 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 5 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 8 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.

  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch

    Y cymhwyster sydd wedi'i lunio i alluogi oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd â chefndiroedd addysgol darniog i fynd i mewn i addysg uwch.

  • diploma ôl-raddedig

    Cymhwyster addysg uwch ar le​fel 7 yn Y fframwaith ar gyfer cymwysterau addysg uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 11 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.

  • diploma ôl-raddedig

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 7 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 11 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban. Gweler hefyd fframwaith cymwysterau addysg uwch, fframwaith credydau a chymwysterau.

  • disgrifiad gweithredol

    Esboniad manwl o'r ffordd mae dull adolygu'n gweithio.

  • disgrifwyr cymhwyster

    Datganiadau generig am y prif gymwysterau ar bob l​efel (er enghraifft, gradd baglor gydag anrhydedd, gradd meistr), sy'n disgrifio'r hyn y dylai myfyrwyr ei wybod, ei ddeall a/neu allu ei ddangos wrth dderbyn y cymhwyster hwnnw, a dangos esiamplau o'i natur a'i nodweddion. 

  • disgrifwyr gradd

    Datganiadau sy'n diffinio lefel o gyflawniad o fewn band penodol o farciau.

  • disgrifydd lefel credyd

    Datganiad am nodweddion generig dysgu ar lefel credyd benodol, a ddefnyddir fel pwynt cyfeirio i'r rheiny sy'n llunio rhaglenni astudio. Gweler fframwaith c​redydau.

  • Disgwyliadau

    ​Datganiadau yn y Cod Ansawdd sy'n nodi beth mae holl ddarparwyr addysg uwch y DU yn ei ddisgwyl ganddynt eu hunain ac felly gan ei gilydd a'r hyn y gall y cyhoedd ei ddisgwyl ganddynt.  ​

  • disgyblaeth

    ​​Maes diffiniedig o astudiaeth academaidd. 

  • diwydrwydd dyladwy

    Ymholiadau sy'n ymwneud â threfniadau llywodraethu, ethos, statws, gallu, enw da a phriodoldeb cyffredinol sefydliad darparuneu ddarparwr cymorth posibl i fodloni gofynion corff dyfarnu graddau am drefniant i ddarparu cyfleoedd d​ysgu.

  • doethur mewn athroniaeth

    Gweler gradd do​ethuriaeth.

  • dogfen hunanwerthusiad

    Adroddiad a gyflwynir gan ddarparwr addysg uwch, yn asesu ei berfformiad ei hun, i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn adolygiad gan ASA.

  • dulliau astudio

    Gwahanol ffyrdd o astudio, megis astudio'n llawn amser, yn rhan amser, e-ddysgu neu ddysg​u seiliedig ar waith.

  • dyfarniad

    Cymhwyster, neu gredyd academaidd, wedi'i gyflwyno i gydnabod yn ffurfiol bod myfyriwr wedi cyflawni'r canlyniadau dysgu a fwriedir a phasio'r asesiadau sy'n ofynnol i gwrdd â'r safonau academaidd a osodir ar gyfer rhaglen neu uned astudio.

  • dyfarniad ar y cyd

    Trefniant lle gall dau gorff dyfarnu graddau neu fwy ddarparu, gyda'i gilydd, raglen sy'n arwain at un dyfarniad a wneir ar y cyd gan y ddau gyfranogwr, neu gan bob un o'r cyfranogwyr. Mae un dystysgrif neu un ddogfen (wedi'i llofnodi gan yr awdurdodau cymwys) yn tystio bod y rhaglen hon sydd wedi'i darparu ar y cyd wedi cwblhau'n llwyddiannus, gan gymryd lle'r cymwysterau sefydliadol neu genedlaethol ar wahân.

  • dyfarniad dwbl neu ddyfarniad deuol

    Rhoi dyfarniadau (a thystysgrifau) ar wahân ar gyfer yr un rhaglen gan ddau gorff dyfarnu graddau sydd wedi darparu'r rhaglen astudio sy'n arwain atynt ar y cyd. Gweler hefyd dyfarniad lluosog.

  • dyfarniadau lluosog

    Trefniant lle mae tri chorff dyf​arnu graddau neu fwy yn darparu, gyda'i gilydd, un rhaglen (neu raglenni) a ddarperir ar y cyd sy'n arwain at ddyfarniad ar wahân (a thystysgrif ar wahân) gan bob un o'r cyrff dyfarnu. Mae'r trefniant yr un fath ag ydyw ar gyfer dy​farniadau dwbl/deuol, ond gyda thri chorff dyfarnu neu fwy'n cymryd rhan.

  • dysgu blaenorol

  • dysgu cyfunol

    Dysgu a ddarperir drwy nifer o wahanol ddulliau, sydd fel arfer yn cynnwys dysgu wyneb yn wyneb ac e-ddysgu (gweler dysgu gyda chymorth technoleg).

  • dysgu gyda chymorth technoleg (e-ddysgu)

    Dysgu a ddarperir neu a gefnogir drwy ddefnyddio technoleg.

  • dysgu hyblyg a dosranedig

    ​Rhaglen neu fodiwl nad yw'n gofyn i'r myfyriwr fynychu dosbarthiadau neu ddigwyddiadau ar amseroedd ac mewn lleoliadau penodol. Gweler hefyd dysgu o bell.​

  • dysgu o bell

    Cwrs astudio nad yw'n cynnwys cysylltiad wyneb yn wyneb rhwng myfyrwyr a thiwtoriaid ond, yn lle hynny, mae'n defnyddio technoleg megis y rhyngrwyd, mewnrwydi, cyfryngau darlledu, CD-ROM a fideo, neu ddulliau traddodiadol o ohebu – dysgu ‘o bell’. Gweler hefyd dysgu cyfunol.

  • dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu yn y gweithle

    Dysgu sy'n digwydd, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, yng nghyd-destun cyflogaeth. Gweler hefyd lleol​iad.

  • e-ddysgu

  • eglur

    Wedi'i gyflwyno mewn ffordd sy'n agored, syml ac sy'n eich rhoi ar ben ffordd.

  • ehangu cyfranogaeth

    Cynyddu cyfranogaeth pobl o amrediad ehangach o gefndiroedd mewn addysg uwch. 

  • eiddo i'r cyhoedd

    Unrhyw leoliad lle gall aelodau o'r cyhoedd ddisgwyl cael mynediad digyfyngedig i wybodaeth. Gweler hefyd yn ei​ddo i'r cyhoedd.

  • etholfreinio

    Proses lle mae corff dyfarnu graddau'n awdurdodi sefydliad arall i ddarparu (ac weithiau asesu) rhan neu'r cwbl o un (neu fwy) o'i raglenni cymeradwy ei hun. Yn aml iawn, mae'r corff dyfarnu graddau'n cadw'r cyfrifoldeb uniongyrchol am gynnwys y rhaglen, y strategaeth addysgu ac asesu, a'r trefnau asesu a sicrhau ansawdd. Fel arfer mae gan fyfyrwyr berthynas gytundebol uniongyrchol gyda'r corff dyfarnu graddau.

  • fframwaith

    Strwythur ffurfiol cyhoeddedig.

  • fframwaith credydau

    Strwythur ffurfiol cyhoeddedig sy'n nodi beth yw'r gwerth credyd sy'n nodweddiadol gysylltiedig â rhaglenni a chymwysterau, ac mae hynny'n gyffredinol yn cynnwys dis​grifwyr lefel credyd

  • fframwaith credydau a chymwysterau

    ​Fframwaith cred​ydau mewn cyfuniad â fframwaith cymwysterau, er enghraifft: Fframwaith credydau a chymwysterau Cymru(FfCChC) a Fframwaith credydau a chymwysterau'r Alban (SCQF).  

  • fframwaith cymwysterau

    Strwythur ffurfiol sy'n pennu lefelau cymwysterau mewn trefn esgynnol ac sy'n nodi'r gofynion o ran y cymwysterau sydd i gael eu dyfarnu ar bob un. Yn addysg uwch y DU, mae'r ‘Fframweithiau Cymwysterau’ yn cyfeirio'n benodol at y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU, sy'n rhan o'r Cod Ansawdd, Rhan A.

  • fframwaith cymwysterau addysg uwch

    Strwythur ffurfiol cyhoeddedig sy'n pennu hierarchaeth l​efelau cymwysterau cenedlaethol ac yn disgrifio'r cyflawniad cyffredinol a ddisgwylir gan ddalwyr y prif fathau o gymhwyster ar bob lefel, a thrwy hynny helpu darparwyr addysg uwch i gynnal safonau academaidd. Mae ASA yn cyhoeddi'r fframweithiau dilynol: Y fframwaith ar gyfer cymwysterau addysg uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon (FHEQ) a'r Fframwaith ar gyfer cymwysterau sefydliadau addysg uwch yn yr Alban (FQHEIS).

  • Fframwaith Gwella Ansawdd

    Strwythur ffurfiol ar gyfer gwella ansawdd addysg uwch yn yr Alban, a ddatblygwyd ac a gynhelir ar y cyd gan bartneriaeth rhwng Cyngor Cyllido'r Alban, Prifysgolion yr Alban, ASA yr Alban, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (Yr Alban) a'r Academi Addysg Uwch. Mae'r fframwaith yn cynnwys pum prif elfen: Adolygiadau dan arweiniad sefydliadAdolygiad Sefydliadol i Sicrhau Gwelliant,gwybodaeth gyhoeddusymgysylltiad myfyrwyr a rhaglen o Themâu G​welliant

  • goruchwyliaeth addysgol

    ​​Craffu ar ddarpariaeth addysgol gan sefydliad annibynnol, yn cyfeirio'n arbennig at graffu ASA ar golegau sydd eisiau ennill statws noddwr ag ymddiriedaeth uchel, fel y mae hynny wedi'i ddiffinio gan Asiantaeth Ffiniau'r DU. Gweler hefyd Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol, H​aen 4.​

  • goruchwyliaeth addysgol

    Craffu ar ddarpariaeth addysgol gan sefydliad annibynnol, yn cyfeirio'n arbennig at graffu ASA ar golegau sydd eisiau ennill statws noddwr ag ymddiriedaeth uchel, fel y mae hynny wedi'i ddiffinio gan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Gweler hefyd Haen 4.

  • gradd

    Cymhwyster addysg uwch ar un o nifer o lefelau, a benderfynir yn ôl dyfnder ac ehangder yr astudio ac a ddyfernir am gyflawni, yn llawn, y canlyniadau dysgu a nodir yn y disgrifydd cymhwyster priodol o fewn y fframwaith cymwysterau perthnasol. Gweler gradd sylfaen, gradd baglor, gradd meistr, gradd doethuriaeth.

  • gradd anrhydedd

    Y math o radd baglor a ddyfernir yn gyffredinol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac a ddyfernir hefyd yn yr Alban yn wahanol i raddau baglor cyffredin. Mae gradd anrhydedd yn gofyn astudiaeth a chyflawniad mwy eang na gradd gyffredin.

  • gradd baglor

    Cwrs astudio academaidd sy'n arwain at gymhwyster, dros gyfnod o dair neu bedair blynedd academaidd o astudio llawn amser fel arfer, ac sy'n gofyn llawer iawn o astudiaeth annibynnol er mwyn datblygu dealltwriaeth drwyadl o bwnc. Mae ar lefel 6 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 6 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ac ar lefelau 9-10 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban (9 ar gyfer graddau baglor cyffredin, 10 ar gyfer graddau baglor anrhydedd). Mae esiamplau'n cynnwys gradd baglor yn y celfyddydau (BA) a gradd baglor yn y gwyddorau (BSc). I ennill gradd baglor ‘gydag anrhydedd’ mae gofyn i fyfyriwr gyflawni canlyniadau dysgu astudiaeth fwy ei maint.

  • gradd doethuriaeth neu ddoethuriaeth

    Cymhwyster addysg uwch a ddyfernir ar gyfer rhaglen o waith astudio ac ymchwil sy'n wreiddiol ac yn annibynnol i raddau mawr (yn para o leiaf tair blynedd fel arfer), ac mae ar lefel 8 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac ar lefel 12 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.

  • gradd er anrhydedd

    ​Gradd nad yw'n gymhwyster academaidd ond a ddefnyddir gan gorff dyfarnu graddau i gydnabod cyflawniadau neu statws unigolyn penodol. Nid yw'r fframweithiau addysg uwch yn berthnasol i raddau er anrhydedd. Ni ddylid drysu'r term yma gyda ‘gradd anrhydedd’ (gweler gradd baglor).​

  • gradd gyffredin, gradd israddedig

    Gradd baglor sydd ar lefel 6 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac ar lefel 9 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban, sy'n gofyn i fyfyriwr gyflawni canlyniadau dysgu astudiaeth lai ei maint fel arfer na hynny a ddisgwylir ar gyfer gradd baglor 'gydag anrhydedd'.

  • gradd meistr

    Cymhwyster addysg uwch, yn para o leiaf blwyddyn fel arfer, sydd wedi'i nodweddu gan astudio dyfnach a mwy o arbenigedd na rhaglen gradd baglor, ac mae ar lefel 7 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 11 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban. Mae esiamplau'n cynnwys graddau meistr yn y celfyddydau (MA), meistr yn y gwyddorau (MSc) a meistr mewn athroniaeth (MPhil).

  • Gradd sylfaen

    Cwrs astudio academaidd sy'n arwain at gymhwyster addysg uwch, sy'n alwedigaethol ei natur fel arfer ac a gwblheir fel arfer dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae ar lefel 5 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac ar lefel 5 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.

  • gradd ymchwil

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 7 neu 8 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 7 neu 8 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 11 neu 12 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.

  • graddedig

    ​Person sydd wedi cyflawni gradd baglor neu radd uwch.

  • graddio

    ​Y broses o dderbyn gradd yn ffurfiol mewn seremoni, nid yn bersonol o angenrheidrwydd.​

  • gwelliant

    ​Y broses y mae darparwyr addysg uwch yn ei defnyddio i wella ansawdd y ddarpariaeth yn systematig a'r ffyrdd y mae addysg myfyrwyr yn cael ei chefnogi. Caiff ei ddefnyddio fel term technegol yn ein prosesau adolygu.​

  • gwerth credyd

    ​Y nifer o gredydau ar lefel credyd benodol, yn nodi maint ac anhawster y dysgu a gyflawnwyd, ar sail oriau tybiannol o ddysgu.​

  • gwybodaeth ddangosol

    ​Gwybodaeth sy'n darparu trosolwg neu amlinelliad o bwnc ond nid yw'n honni ei bod yn gwbl gynhwysfawr.​

  • gwybodaeth ddibynadwy

    ​Gwybodaeth y mae gan y darparwr sail dda i honni ei bod yn ddibynadwy a gonest a bod modd rhoi hyder ynddi.​

  • gwybodaeth gyhoeddus

    ​Gwybodaeth sydd ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd (y cyfeirir ati weithiau fel bod ‘yn eiddo i'r cyhoedd’.​

  • gwybodaeth hygyrch

    ​Gwybodaeth a gyflwynir neu sydd ar gael mewn ffurfiau addas fel bod yr holl gynulleidfaoedd targed yn gallu ei chanfod a'i deall.​

  • gwybodaeth rheoli

    ​Gwybodaeth a gesglir ar gyfer monitro ac adolygu safonau ac ansawdd academaidd, ac a ddefnyddir i hysbysu penderfyniadau rheolwyr. ​

  • Haen 4

    Y rhan o system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau Llywodraeth y DU sy'n ymwneud ag unigolion sydd eisiau dod i'r DU i wneud cwrs astudio mewn sefydliad addysgol. Ystyrir y sefydliadau addysg uwch hynny y caniateir iddynt recriwtio mewnfudwyr o'r fath yn noddwyr ag ymddiriedaeth uchel. Er mwyn sicrhau'r statws yma, mae'n rhaid iddynt gwblhau Adolygiad ar gyfer Goruchwyliaeth Addysgol gan ASA yn llwyddiannus.

  • lefel credyd

    Mae'r lefel credyd yn dangos beth yw cymhlethdod, dyfnder ac ymreolaeth cymharol y dysgu sy'n gysylltiedig â modiwl penodol, a defnyddir hon mewn fframweithiau credydau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am gredyd academaidd.

  • lefel cymhwyster

    Un o gyfres o bwyntiau diffiniedig mewn fframwaith cymwysterau sydd wedi'u rhifo mewn trefn esgynnol. Mae cymwysterau o fewn yr un lefel yn rhannu nodweddion ac yn gofyn am gyflawniad tebyg. Gellir cymharu lefelau cymhwyster mewn gwahanol fframweithiau. Mae lefelau cymhwyster yn wahanol i lefelau credyd.

  • lleoliad

    ​Cyfnod wedi'i gynllunio o brofiad y tu allan i'r sefydliad (er enghraifft, mewn gweithle) i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth neu ddealltwriaeth arbennig yn rhan o'u rhaglen.​

  • Mae

    ​Mae fy mywyd yn dda​

  • mam-yng-nghyfraith

    ​Roedd y fam a roddodd enedigaeth i fy mam​

  • manylebau rhaglen

    ​Datganiadau wedi'u cyhoeddi am y canlyniadau dysgu y bwriedir eu sicrhau o'r rhaglenni astudio, yn cynnwys gwybodaeth am ddulliau dysgu ac addysgu, dulliau cymorth ac asesu, a sut mae unedau unigol yn berthnasol i lefelau cyflawniad.​

  • marcio dienw

    ​Marcio gwaith a gyflwynwyd gan fyfyrwyr heb ddatgelu pwy ydynt i'r person sy'n gwneud y gwaith marcio pan fo'r gwaith yn cael ei farcio, fel nad yw'r asesiad yn rhagfarnllyd.​

  • marcio dwbl

    ​Asesiad o waith myfyrwyr gan ddau farciwr annibynnol neu fwy fel ffordd o ddiogelu neu sicrhau safonau academaidd drwy reoli rhagfarnau unigol.​

  • meincnodi rhyngwladol

    ​Y gweithgaredd o bennu, ystyried, cymharu a dysgu o arferion sy'n datblygu'n rhyngwladol ac anelu at rannu a dysgu o hyn mewn cyfres o themâu sy'n berthnasol i addysg uwch yn yr Alban.​

  • meini prawf asesu

    ​Y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae marcwyr yn disgwyl i fyfyriwr eu dangos mewn tasg asesu, ac a gymerir i ystyriaeth wrth farcio'r gwaith. Mae'r meini prawf hyn wedi'u seilio ar y canlyniadau dysgu a fwriedir.

  • meistr yn y celfyddydau, meistr yn y gwyddorau

    ​Gweler gradd meistr. ​

  • modiwl

    Uned astudio hunangynhwysol, wedi'i strwythuro'n ffurfiol, gyda chyfres eglur a rhesymegol o ganlyniadau dysgu a meini prawf asesu. Mae rhai sefydliadau'n defnyddio'r gair ‘cwrs’ i gyfeirio at fodiwlau unigol. ​

  • modiwlaidd

    ​Wedi'i greu o fodiwlau.​

  • myfyriwr israddedig

    Myfyriwr cyfredol nad yw eto wedi ennill gradd gyntaf.

  • myfyriwr ôl-raddedig

    ​Myfyriwr sydd wedi cyflawni gradd baglor neu radd gyfatebol ac sydd yn awr yn astudio ar gyfer cymhwyster ar lefel uwch.​

  • myfyrwyr cyfredol

    ​Myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar raglen astudio, ac sy'n cymryd rhan yn y rhaglen astudio, nad ydynt eto wedi cwblhau eu hastudiaethau neu sydd wedi derbyn eu cymhwyster.​

  • noddwr ag ymddiriedaeth uchel

    Gweler Noddwr Haen 4.

  • nodweddion gwarchodedig

    Nodweddion penodol – oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (tarddiad ethnig neu hunaniaeth genedlaethol), crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol – a allai, yng nghyd-destun y Cod Ansawdd, ofyn i ystyriaeth arbennig gael ei rhoi i sicrhau mynediad cyfartal i gyfleoedd addysgol i bawb.

  • oriau tybiannol o ddysgu

    ​Y nifer o oriau (y disgwylir) y bydd dysgwr yn eu treulio ar lefel neilltuol, ar gyfartaledd, i gyflawni'r canlyniadau dysgu penodol ar y lefel honno.​

  • partner cydweithredol

    ​Gweler sefydliad darparu, darparwr cymorth a sefydliad partner.​

  • pentref addysg

    ​Grŵp o ddarparwyr addysg sy'n defnyddio campws ac ethos a rennir, ac yn ffurfio cymuned addysgol, er nad ydynt o anghenraid yn darparu addysg o'r un math neu ar yr un lefel.​

  • prifysgolion

    ​Sefydliadau annibynnol a hunanlywodraethol sy'n gwneud gwaith ymchwil ac addysgu ac sy'n amrywiol eu maint, eu cenhadaeth a'u hanes ac sy'n amrywio o ran yr ystod o bynciau y maent yn eu cynnig. Cododd y prifysgolion cyntaf o golegau neu sefydliadau a sefydlwyd gan grwpiau o ysgolheigion gyda chysylltiadau mynachaidd yn aml iawn a/neu noddwyr bonheddig neu frenhinol. Yn dilyn hynny, mae prifysgolion wedi'u sefydlu drwy Siarter Frenhinol, Deddf Seneddol, Bwla Pabaidd neu drwy Orchymyn y Cyfrin Gyngor gan eu galluogi i ddatblygu eu rhaglenni astudio eu hunain a dyfarnu eu graddau eu hunain. Gweler hefyd pwerau dyfarnu graddau.​

  • Proses Bologna

    ​Menter i gryfhau a datblygu Ardal Addysg Uwch Ewrop fel dull o sicrhau bod cymwysterau'n cael eu cydnabod yn gyfartal, bod systemau'n eglur a bod staff a myfyrwyr yn gallu trosglwyddo'n hawdd rhwng sefydliadau addysg uwch yn Ewrop.​

  • pryder

    ​Mater sy'n gallu peri risg i safonau neu ansawdd addysg uwch sydd felly'n gofyn am archwiliad ar sail tystiolaeth.

  • pwerau dyfarnu graddau

    Yr hawl i gyflwyno graddau, a roddir drwy statud, drwy Siarter Frenhinol neu gan y Cyfrin Gyngor yn dilyn argymhelliad gan ASA. Gall cyrff wneud cais am yr hawl i ddyfarnu graddau sylfaen, graddau a addysgir a graddau ymchwil, ac mae proses ymgeisio ar wahân ar gyfer pob un ohonynt. Gweler hefyd corff dyfarnugraddau a theitl prifysgol.

  • pwyntiau cyfeirio

    ​Datganiadau a chyhoeddiadau eraill sy'n sefydlu meini prawf y gellir mesur perfformiad yn eu herbyn.​

  • rhaglen (astudio)

    Cwrs astudio cymeradwy sy'n darparu profiad dysgu cydlynol ac sydd fel arfer yn arwain at gymhwyster. Rhaid i raglenni addysg uwch y DU gael eu cymeradwyo a'u dilysu gan gyrff dyfarnu graddau'r DU.

  • rheoliadau asesu

    ​Y rheoliadau sy'n llywio asesiad o raglen astudio gan gynnwys y cynllun marcio, y marc pasio, y gofynion ar gyfer symud ymlaen i lefelau neu gamau dilynol rhaglen a'r gofynion dyfarnu a dosbarthu (er enghraifft, credydau sydd i gael eu cyflawni a marciau penodol sydd i gael eu hennill).​

  • rhith-amgylchedd dysgu

    Mewnrwyd neu wefan ryngweithiol sydd wedi'i diogelu gan gyfrinair sy'n rhoi mynediad yn electronig i gyfleoedd dysgu. Gallai'r rhain gynnwys adnoddau megis llawlyfrau cwrs, gwybodaeth a rhestrau darllen; blogiau, byrddau neges a fforymau; darlithoedd wedi'u recordio; a/neu gyfleusterau ar gyfer seminarau ar-lein (gweminarau).

  • safon

  • Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG)

    ​Y disgwyliadau a ddatblygwyd gan Gymdeithas Sicrhau Ansawdd mewn Addysg Uwch Ewrop (ENQA) ar gyfer sicrhau ansawdd mewn addysg uwch ar draws Ardal Addysg Uwch Ewrop.

  • safonau academaidd

    ​Y safonau a osodir gan gyrff dyfarnu graddau ac a gynhelir ganddynt ar gyfer eu cyrsiau (rhaglenni a modiwlau) a'r safonau a ddisgwylir ar gyfer eu dyfarniadau. Gweler hefyd safon academaidd trothwy. ​

  • safonau academaidd trothwy

    Y lefel isaf o gyflawniad sy'n dderbyniol y mae'n rhaid i fyfyriwr ei dangos er mwyn bod yn gymwys i dderbyn dyfarniad academaidd. (Gweler Cyflwyniad cyffredinol y Cod Ansawdd.) Mae safonau academaidd trothwy wedi'u disgrifio yn y Fframweithiau Cymwysterau cenedlaethol a'r Datganiadau Meincnod Pwnc.

  • safoni

    ​Proses a sefydlwyd i sicrhau bod canlyniad asesiad yn deg a dibynadwy a bod meini prawf asesu wedi'u gweithredu'n gyson. Gweler hefyd marcio dwbl.​

  • sefydliad darparu

    Sefydliad sy'n darparu cyfleoedd dysgu ar ran corff dyfarnu graddau. Efallai mai darparwr addysg uwch heb bwerau dyfarnu graddau ydy hwn, neu gorff dyfarnu graddau heblaw'r corff sy'n rhoi'r dyfarniad, neu gyflogwr neu sefydliad arall sydd wedi'i gymeradwyo gan y corff dyfarnu graddau.

  • sefydliad dyfarnu

    ​Gweler corff dyfarnu graddau.​

  • sefydliad partner

    Corff dyfarnu graddau sy'n gweithio ar y cyd gyda chorff dyfarnu graddau arall lle mae'r ddau'n defnyddio eu pwerau dyfarnu graddau i gynnig dyfarniadau dwbl neu ddyfarniadau ar y cyd.

  • sefydliadau addysg uwch

    ​Prifysgolion, colegau neu sefydliadau eraill sydd, yn y lle cyntaf, yn darparu rhaglenni addysg uwch. Gweler hefyd darparwyr addysg uwch.​

  • Seilwaith Academaidd

    ​Yr arweiniad craidd a ddatblygwyd ac a gynhelir gan ASA mewn partneriaeth â chymuned addysg uwch y DU ac a ddefnyddiwyd gan ASA a darparwyr addysg uwch hyd 2011-12 i sicrhau ansawdd addysg uwch y DU. Mae wedi'i ddisodli ers hynny gan God Ansawdd Addysg Uwch y DU (y Cod Ansawdd).

  • semester

    ​Rhan o flwyddyn academaidd pan fo'r flwyddyn wedi'i rhannu'n ddwy ran i bwrpasau addysgu ac asesu (yn wahanol i rannu'n dymhorau).​

  • sgiliau trosglwyddadwy

    ​Sgiliau a ddysgir mewn un cyd-destun arbennig y gellir eu gweithredu'n ddefnyddiol mewn cyd-destun arall.

  • Siarter Frenhinol

    Caniatâd gan y brenin/frenhines, ar gyngor y Cyfrin Gyngor, oedd yn gyfrwng i'r mwyafrif o brifysgolion hŷn (a sefydlwyd cyn 1992) ennill eu statws prifysgol, sy'n nodi'r cyfansoddiad a'r statudau – y rheoliadau cyffredinol y dylai'r brifysgol weithredu oddi mewn iddynt.

  • sicrhau ansawdd

    ​Monitro a gwerthuso dysgu ac addysgu'n systematig, a'r prosesau sy'n eu cefnogi, i sicrhau bod safonau dyfarniadau academaidd yn cwrdd â'r Disgwyliadau sydd wedi'u nodi yn y Cod Ansawdd, a bod ansawdd profiad dysgu'r myfyriwr yn cael ei ddiogelu a'i wella.​

  • strwythurau gweithredol

    ​Y seilwaith mewn sefydliad ar gyfer y penderfyniadau a'r camau gweithredu sydd i gael eu cymryd gan hierarchaeth o swyddogion unigol.

  • System Casglu a Throsglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS)

    ​System a ddefnyddir drwy Ewrop gyfan ar gyfer casglu a throsglwyddo credydau academaidd (gweler cynlluniau casglu a throsglwyddo credydau). ​

  • teg

    ​(Yn cyfeirio at wybodaeth) Yn rhoi'r argraff gywir.​

  • teitl prifysgol

    ​Hawl sefydliad i'w alw ei hun yn brifysgol.​

  • thema

    ​Yng nghyd-destun adolygiad, pwnc sydd wedi'i ddewis i dderbyn sylw arbennig i bwrpasau ansawdd. Gweler hefyd Thema Gwelliant.​

  • Thema Gwelliant

    ​Maes neu agwedd penodol o ddarpariaeth neu ymarfer, y cytunwyd arnynt ac a gynlluniwyd gan y sector addysg uwch yn yr Alban ac a reolir gan ASA, gyda'r nod o wella profiad dysgu'r myfyriwr. Mae'r Themâu'n annog staff academaidd, staff cymorth a myfyrwyr i rannu arfer da (o'r DU ac yn rhyngwladol) a chynhyrchu syniadau a modelau ar y cyd ar gyfer arloesi mewn dysgu ac addysgu.​

  • trawsgrifiad

    Dogfen, ond nid tystysgrif ffurfiol, sy'n ardystio'r canlyniadau a gafwyd mewn arholiad terfynol (wedi'u rhannu fel arfer i lefel modiwlau/unedau o leiaf).

  • trefniadau cynnydd

    ​Trefniadau lle gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau rhaglen yn llwyddiannus mewn un sefydliad gael eu hystyried ar sail unigol ar gyfer symud ymlaen naill ai at gychwyn neu at gam uwch o raglen gan y corff dyfarnu graddau. Gweler hefyd trefniant trosglwyddo.​

  • trefniant cydweithredol

    Trefniant ffurfiol rhwng corff dyfarnu graddau a darparwr addysg uwch arall, yn caniatáu i'r olaf ddarparu addysg uwch ar ran y cyntaf, gan arwain fel arfer at ddyfarnu credyd, neu gymhwyster, gan y corff dyfarnu graddau. Lle mae mwy nag un trefniant o'r fath yn berthnasol i'r un rhaglen astudio, yr enw ar hyn yw trefniant cyfresol. Ymhob achos o'r fath, mae'r corff dyfarnu graddau'n parhau'n gyfrifol am sicrhau bod Disgwyliadau'r Cod Ansawdd yn cael eu cyflawni.​
  • trefniant cyfresol

    ​Y sefyllfa sy'n codi pan fydd sefydliad darparu sy'n gyfrifol am raglenni sydd wedi'u hetholfreinio iddo (neu eu dilysu) gan gorff dyfarnu graddau yn mynd i drefniant ar wahân gyda thrydydd parti i ddarparu'r rhaglenni cyfan hynny.​

  • trefniant trosglwyddo

    ​Proses lle mae gan bob myfyriwr sy'n bodloni'r meini prawf academaidd ar un rhaglen hawl awtomatig (ar sail academaidd) i gael lle lefel uwch mewn blwyddyn neu ran ddilynol o raglen corff dyfarnu graddau. Mae trefniadau, sy'n atebol i gytundebau ffurfiol rhwng y partïon, yn ymwneud fel arfer â chynlluniau casglu a throsglwyddo credydau.​

  • trosglwyddo credydau

    System sy'n caniatáu i gredyd a ddyfernir gan un corff dyfarnu graddau gael ei gydnabod a'i gynnwys tuag at y gofynion ar gyfer rhaglen mewn darparwr addysg uwch arall; neu sy'n caniatáu i gredyd a enillir ar raglen benodol gyfrannu tuag at ofynion rhaglen wahanol. Gweler hefyd cynlluniau casglu athrosglwyddo credydau.

  • trosglwyddo gwybodaeth (neu gyfnewid gwybodaeth)

    Defnyddio canlyniadau neu ddeilliannau gweithgareddau ymchwil addysg uwch er budd y gymdeithas ehangach a'r economi. Gallai hynny fod trwy ddatblygu cymwysiadau masnachol neu drwy helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, er enghraifft. Gellir gwneud y gweithgareddau hyn drwy ‘bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth’ (PTG).

  • tymor

    Unrhyw un rhan o flwyddyn academaidd sydd wedi'i rhannu'n dair neu fwy i bwrpasau addysgu ac asesu (yn wahanol i'w rhannu'n semestrau).

  • tystysgrif addysg uwch

    ​Gweler tystysgrif israddedig, tystysgrif i raddedigion a thystysgrif ôl-raddedig.

  • tystysgrif i raddedigion

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 6 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ac ar lefelau 9-10 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban (9 ar gyfer graddau cyffredin, 10 ar gyfer graddau anrhydedd).

  • tystysgrif israddedig

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 4 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 4 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.

  • tystysgrif ôl-raddedig

    Cymhwyster addysg uwch ar lefel 7 yn Y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ar lefel 7 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, ac ar lefel 11 yn Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban.

  • Y Cod Ansawdd

    Term byr am God Ansawdd Addysg Uwch y DU, sef y gyfres i'r DU gyfan o bwyntiau cyfeirio i ddarparwyr addysg uwch, sy'n nodi'r Disgwyliadau y mae gofyn i bob darparwr eu cyflawni. Datblygwyd y Cod Ansawdd gyda'r gymuned addysg uwch ac mae'n eiddo i, ac yn cael ei gynnal a'i gyhoeddi gan ASA.

  • y cyhoedd

    ​Unrhyw un a allai gael gafael ar, neu sydd eisiau cyrraedd, gwybodaeth am ddarpariaeth addysg uwch.​

  • Ymgysylltiad Datblygiadol

    ​​Ymgysylltiad Datblygiadol (DE) Dull o adolygu a ddefnyddir gan ASA i archwilio a rhoi sylwadau ar y ddarpariaeth cyrsiau addysg uwch drwy weithio'n agos gyda staff o'r brifysgol neu'r coleg perthnasol, ac yn canolbwyntio ar thema neu bwnc. Mae'r dull yma wedi'i lunio i helpu sefydliadau i wella eu rheolaeth ar addysg uwch, ac ar hyn o bryd dyma gam cyntaf yr Adolygiad Ansawdd a Gwelliant Integredig (gweler hefyd Adolygiad Crynodol).​

  • ymgysylltiad myfyrwyr

    Cyfathrebu gyda myfyrwyr a'u cynnwys yn y ffordd y gosodir ac y cynhelir safonau ac ansawdd eu haddysg uwch.​

  • ymgysylltu

    ​Rhyngweithio a chyfathrebu gyda grŵp neu sefydliad arbennig sy'n arwain at well dealltwriaeth, yn arbennig ar faterion y mae'r ddwy ochr yn pryderu amdanynt.​

  • yn eiddo i'r cyhoedd

    ​(Yn cyfeirio at wybodaeth) Mae hon wedi'i rhoi lle mae ar gael yn hawdd i bawb.