Skip to main navigation Skip to content
safeguarding standards and improving the quality of UK higher education
 
 

Adolygiad sefydliadol: Cymru 

 Adroddiadau Adolygiad Sefydliadol

Er mwyn chwilio am adroddiadau Adolygiad Sefydliadol, defnyddiwch y cyfleuster chwilio Rhestr fesul math.

 

Efallai bod gennych hefyd ddiddordeb mewn:

Adborth ar ymgynghoriad ar y llawlyfr newydd drafft

 

Ein gwaith yng Nghymru

 

Cynllun Iaith Gymraeg

 

Sut i ddod yn adolygydd

 

 

Mae'r dudalen yma'n disgrifio sut y byddwn yn gwirio trefniadau sicrhau ansawdd addysg uwch yng Nghymru.

Beth ydyw
Rydym yn defnyddio adolygiad sefydliadol i adolygu pa mor effeithiol y mae'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru'n rheoli ansawdd a safonau eu darpariaeth academaidd o 2009-10. Mae adolygiadau'n digwydd ar raglen dreigl a chânt eu gweithredu gan dîm o bum adolygwr.

Cyhoeddir adroddiad ar adolygiad bob sefydliad. Mae'r adroddiadau'n cynnwys sylwadau ynghylch yr hyder y gellir ei roi yn systemau sicrhau ansawdd y sefydliad ei hun. Maent hefyd yn cynnwys y nodweddion sy'n arferion da a'r argymhellion ar gyfer gweithredu ymhellach. Fel rhan o'n Cynllun Iaith Gymraeg, cyhoeddir pob adroddiad yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Sut mae'n gweithio
Mae gan holl aelodau'r timau adolygu brofiad diweddar o reolaeth academaidd a sicrhau ansawdd mewn addysg uwch yn y DU. Mae'r timau'n edrych ar wybodaeth a ddarperir gan y sefydliad a gan ei fyfyrwyr, ac yna'n ymweld â'r sefydliad dros gyfnod o wythnos pan fyddent yn cyfarfod â'r staff a'r myfyrwyr.

Mae'r tîm hefyd yn defnyddio pwyntiau cyfeirio safonol, sef y Seilwaith Academaidd. Mae'r Seilwaith Academaidd yn gyfrwng i osod trothwy disgwyliadau gofynnol ledled y DU. Mae'n cynnwys:

  • y Cod ymarfer
  • datganiadau meincnod pynciau
  • y fframweithiau ar gyfer cymwysterau addysg uwch
  • manylebau rhaglenni
  • Ffeiliau Cynnydd
  • canllawiau ar achredu dysgu blaenorol

Gwybodaeth fanwl
Mae gwybodaeth fanylach am yr Adolygiad Sefydliadol yn y dogfennau canlynol:

Llawlyfr adolygiad sefydliadol: Cymru (Ail argraffiad)
Nodwch, os gwelwch yn dda, bod un gywiriad wedi'u gwneud i'r Llawlyfr ar Fawrth 3 2010. Mae dyddiad cyhoeddi'r adroddiad adolygu wedi'i newid ar dudalen 51 i ‘24 wythnos ar ôl’.
Adolygiad Sefydliadol: arweiniad ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr (PDF)
Canllawiau bach: arweiniad byr i fyfyrwyr am yr Adolygiad Sefydliadol (PDF)

Gwybodaeth arall

Adolygiad datblygiadol o addysg uwch a ddarperir mewn sefydliadau addysg bellach: Cymru
Canllawiau ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer arferion effeithiol wrth arholi ac asesu mewn iaith heblaw iaith y dysgu

Mynediad i addysg uwch
Ein gwaith yng Nghymru

Canlyniadau o Adolygiad Sefydliadol

Fel rhan o'n gwaith gwella, rydym wedi cyhoeddi cyfres fer o bapurau Canlyniadau o Adolygiad Sefydliadol, sy'n defnyddio canfyddiadau'r adroddiadau Adolygiad Sefydliadol. Mae'r gyfres yn cynnwys y 12 adroddiad adolygiad a gyhoeddwyd rhwng 2004 a 2009.

Archif
Adolygiad sefydliadol yng Nghymru: arweiniad ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr - Fersiwn PDF
Llawlyfr adolygiad sefydliadol: Cymru - Fersiwn PDF

Top