Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

2 Ebrill 2019


Mynd i'r afael â melinau traethodau a chamymddwyn academaidd


""


Gareth Crossman
Pennaeth Materion Cyhoeddus a Pholisi QAA



Dydych chi ddim fel arfer yn disgwyl i arweinwyr prifysgol dynnu sylw at faterion a allai achosi risg i'w henw da. Felly, pan ysgrifennodd 45 o Is-Gangellorion a chynrychiolwyr y sector addysg uwch lythyr at Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg y DU y llynedd yn gofyn iddo gymryd camau gweithredu yn erbyn melinau traethodau, roedd hynny'n adrodd cyfrolau. Er credyd iddynt, roedd y llofnodwyr yn ymwybodol bod twyllo ym maes addysg uwch yn broblem sylweddol, ac yn broblem gynyddol hefyd mae'n ymddangos. Ychydig flynyddoedd yn ôl, efallai y byddent wedi bod yn amharod i dynnu sylw at y posibilrwydd o dwyllo yn eu sefydliadau..


Felly sawl twyllwr sydd?


Dyma'r cwestiwn cyntaf y bydd pobl yn ei ofyn i mi fel arfer mewn cyfweliadau am y melinau traethodau. Am nad ydy pobl sy'n twyllo eisiau hysbysebu'r peth fel arfer, mae'n amhosibl dweud yn sicr. Fodd bynnag, mae nifer enfawr y cwmnïau sy'n cynnig ysgrifennu traethodau wedi'u teilwra ar gyfer y myfyrwyr hyn yn dangos bod marchnad ffyniannus i'w chael.


Mae amrywiaeth eang o ddewisiadau a phrisiau ymysg y cwmnïau sy'n barod i ysgrifennu traethodau ar eu rhan. Yr hyn sydd ganddynt oll yn gyffredin yw eu bod yn nodi'n glir, yn allblyg neu'n ymhlyg, drwy bwysleisio bod eu gwaith 'heb unrhyw lên-ladrad', bod modd i chi gyflwyno'r gwaith hwn fel eich gwaith eich hun. Efallai bod ymwadiadau ynghylch peidio â chynnwys llên-ladrad ac ynghylch defnyddio traethodau fel 'atebion model' yn unig, yn rhoi argraff o wasanaeth parchus - ond pam fyddai rhywun yn talu cannoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd am draethawd model, pan mae eich sefydliad yn eu darparu'n barod yn rhad ac am ddim. Heblaw eich bod yn bwriadu cyflwyno'r gwaith yma fel eich gwaith eich hun.


Mae hon yn broblem i'r sector addysg uwch ledled y byd, ond mae'n un bwysig i'n cymdeithas ehangach hefyd. Bydd graddedigion sydd wedi twyllo yn y brifysgol neu'r coleg yn ymuno â'r gweithlu heb y sgiliau a'r hyfforddiant sy'n angenrheidiol. Gallai hyn hefyd godi pryderon yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd, fel y gwelwyd mewn adolygiad a gyhoeddwyd gan The Times yn 2016 lle datgelwyd, trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth i fwy na 60 o brifysgolion, bod mwy na 1,700 o fyfyrwyr oedd yn astudio ar gyrsiau nyrsio wedi cael eu dal yn twyllo yn ystod y tair blynedd flaenorol.


Felly, beth allwn ni ei wneud?


Y realiti yw, does dim un ateb i ddatrys y cyfan. Yr unig beth sy'n cymell y cwmnïau hyn sy'n felinau traethodau yw elw, felly'r dull gorau yw creu amgylchedd anodd iddyn nhw drwy ei gwneud hi'n anoddach twyllo.


Mae pasio deddfau i wneud melinau traethodau'n anghyfreithlon yn un opsiwn mae'n sicr, ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn rhoi cynnig ar nifer o gynigion ynglŷn â sut y gallai hynny weithio. Mae nifer o wledydd, yn cynnwys Seland Newydd, wedi cymryd y llwybr yma'n barod. Ond, os ydym yn bwriadu gwneud y melinau traethodau'n anghyfreithlon yn hytrach nac erlyn y myfyrwyr sy'n troseddu, mae heriau i'w gorchfygu'n gyntaf cyn y gellir taro ar y ddeddfwriaeth gywir. I ni yn y Deyrnas Unedig, ni fyddai'r ddeddfwriaeth ond yn berthnasol i gymryd camau gweithredu yn erbyn cwmnïau sydd wedi'u seilio yn y DU, yn hytrach na'r nifer fawr sy'n gweithredu dramor. Ond, fel y mae sefydliadau'n dweud wrthym yn aml, byddai gwneud melinau traethodau'n anghyfreithlon yn anfon neges bwerus i'r myfyrwyr ei bod hi'n annerbyniol eu defnyddio nhw.


Yn ogystal â'r cwmnïau ysgrifennu traethodau eu hunain, cafwyd awgrymiadau y dylid gwneud y myfyrwyr sy'n twyllo yn droseddwyr hefyd. Safbwynt QAA, a safbwynt y Grŵp Cynghori ar Onestrwydd Academaidd a gynhaliom, yw y gallai, ac y dylai, myfyrwyr sy'n cael eu dal yn twyllo wynebu cosbau, gan gynnwys cael eu diswyddo o'u cwrs neu eu sefydliad. Rydym yn glir, fodd bynnag, y dylai cyfraith trosedd ond gael ei gweithredu ar gyfer y rheiny sy'n ennill arian o gamymddwyn academaidd.  


Mae gan nifer o gwmnïau sy'n felinau traethodau strategaethau marchnata hynod effeithiol i gyrraedd myfyrwyr, yn bennaf drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Drwy dargedu'r ymgyrchoedd marchnata hyn, rydym yn ei gwneud hi'n anoddach iddynt ddenu cwsmeriaid. Ym mis Rhagfyr 2017, ysgrifennodd QAA at chwe phlatfform ar-lein, gan gynnwys Google, PayPal a YouTube, yn dweud wrthynt fod cwmnïau sy'n felinau traethodau'n defnyddio gwasanaethau â ffi ac yn gofyn i'r platfformau roi bloc i'w hatal nhw rhag gwneud hynny. Mewn cydweithrediad â QAA, gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg y DU ymyrraeth debyg yn ddiweddar.


Mae'n allweddol hefyd i addysgu myfyrwyr i fod yn ymwybodol o ganlyniadau posibl twyllo er mwyn rhoi stop ar y galw am y gwasanaeth. Yn ogystal ag wynebu'r posibilrwydd o gael eu tynnu oddi ar eu cyrsiau neu o'u sefydliadau, rydym yn clywed achosion anecdotaidd o flacmelio gan gwmnïau sy'n felinau traethodau sy'n gwybod bod myfyrwyr mewn sefyllfa beryglus unwaith y byddent wedi defnyddio eu gwasanaethau.


Yn 2017, cyhoeddodd QAA ganllawiau sy'n hyrwyddo defnyddio ystod o ddulliau i addysgu'r staff a'r myfyrwyr yn y maes yma er mwyn atal pobl rhag defnyddio melinau traethodau ac i ddarganfod unrhyw ddefnydd a wneir ohonynt. Mae'r argymhellion yn cynnwys adolygu dulliau asesu sefydliadol, gosod pwyntiau gwirio rheolaidd yn ystod y broses asesu, a defnyddio cyflwyniad llafar pan fydd gwaith y myfyriwr yn wahanol i'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Dylwn bwysleisio bod llawer o sefydliadau'n defnyddio'r dulliau hyn, a dulliau eraill, yn barod i helpu i ddarganfod achosion posibl o gamymddwyn academaidd. Hefyd, mae cenhedlaeth newydd o feddalwedd canfod llên-ladrad yn dod i mewn i'r farchnad a dylai hwn fod yn fwy effeithiol o ran canfod cynnyrch y mwyafrif o felinau traethodau.


Yn fwy cyffredinol, mae diogelu gonestrwydd academaidd yn ymwneud â llawer iawn mwy na melinau traethodau. Mae mathau eraill o dwyll, er enghraifft, tystysgrifau ffug neu'r defnydd a wneir o asiantau derbyn twyllodrus i recriwtio myfyrwyr sydd heb gymwysterau, yn destun pryder hefyd. Mae'r Grŵp Cynghori ar Onestrwydd Academaidd a gynhaliom yn dod ag arbenigwyr yn y frwydr yn erbyn camymddwyn academaidd at ei gilydd o bob cwr o'r DU, i geisio cymryd agwedd gyfannol tuag at ddiogelu gonestrwydd academaidd, lle bynnag y bo'r angen. Mae angen i ni hefyd gydweithio'n agosach â phartneriaid ac asiantaethau ledled y byd i ymdrin â'r hyn sy'n ffenomenon rhyngwladol. Mae'n fater cymhleth, sy'n gofyn ymateb ar nifer o lefelau. Y newyddion da yw bod y sector addysg uwch yn cydweithio i ymdrin â'r broblem hon.