Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

29 Mai 2020


Myfyrwyr fel partneriaid - heriau sy'n wynebu undebau myfyrwyr yn ystod COVID-19




Authors



Amy Eberlin
Arbenigwr Ansawdd a Gwella,
QAA yr Alban



Exception occured while executing the controller. Check error logs for details.

Holly Thomas
Arbenigwr Ansawdd a Gwella,
QAA Cymru

Mae'r cysyniad o 'fyfyrwyr fel partneriaid' yn ganolog i ymgysylltiad ystyrlon myfyrwyr yn sectorau addysg uwch yr Alban a Chymru, ac mae’n egwyddor sy’n sylfaenol i waith ASA. Er bod pandemig COVID-19 wedi achosi newidiadau sylweddol ym mhrofiad dysgu myfyrwyr; symud i ddysgu, addysgu ac asesu digidol, ynghyd â myfyrwyr yn cael eu gwahanu'n gorfforol rhag eu cymunedau o fewn y brifysgol, mae’r newidiadau hyn wedi pwysleisio pwysigrwydd llais ac ymgysylltiad myfyrwyr mewn prosesau gwneud penderfyniadau o fewn y sefydliad ac ar draws y sector. Mae undebau myfyrwyr ledled yr Alban a Chymru, gyda chefnogaeth gan asiantaethau allweddol yn y sector, wedi ceisio cynnal ymdeimlad parhaus o gymuned ac wedi dal ati i hyrwyddo profiad a chynrychiolaeth myfyrwyr drwy gydol yr argyfwng presennol.

 

Mae undebau myfyrwyr yn wynebu heriau na ellir eu rhagweld drwy gydol y sefyllfa bresennol. Serch hynny, maent yn cynnal eu rôl ganolog fel cynrychiolydd llais myfyrwyr a datrysydd problemau cymuned y myfyrwyr.

 

Yng Nghymru, mae undebau myfyrwyr wedi cyflwyno gwobrau dan arweiniad myfyrwyr ar-lein i atgoffa staff a myfyrwyr o'r pethau anhygoel maen nhw'n eu gwneud yn ddyddiol yng nghymuned eu prifysgol. Maent yn parhau i ddehongli gwybodaeth i fyfyrwyr yn eu sefydliadau a chyrff cyhoeddus yn ogystal â darparu cyfleoedd i roi adborth ar newidiadau i fywyd myfyriwr. Maent wedi cynnal a gwella eu ffocws ar lesiant myfyrwyr drwy gynnig awgrymiadau i gyfoedion ar hunanofal a chyngor drwy gydol y sefyllfa ddigynsail hon.

 

Ym mhrifddinas Cymru, mae undebau myfyrwyr wedi cydweithio i gynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n byw yn y sector preifat, gyda Llywyddion o bedwar gwahanol undeb myfyrwyr yn cyd-lofnodi llythyr yn cefnogi eu myfyrwyr. Mae undebau myfyrwyr eraill wedi llunio templedi i fyfyrwyr i'w defnyddio i gysylltu â landlordiaid ynghylch cael eu rhyddhau o gontractau ar gyfer y trydydd tymor. Mae undebau myfyrwyr yn parhau i weithio gyda'u sefydliadau a chyrff o fewn y sector, fel ASA, i sicrhau bod llais myfyrwyr yn cael ei gynrychioli'n effeithiol drwy gydol y datblygiadau cyfredol a'r newidiadau i brofiad myfyrwyr.

 

Effeithiodd y symudiad cyflym i ddysgu digidol ym mis Mawrth 2020 hefyd ar brosesau cynrychiolaeth myfyrwyr ym mhrifysgolion yr Alban. Mae sefydliadau addysg uwch yr Alban a chymdeithasau / undebau myfyrwyr wedi gweithio'n agos i sicrhau nad yw cymunedau myfyrwyr yn cael eu heffeithio’n negyddol gan y pandemig cyfredol. Mae cymdeithasau / undebau myfyrwyr hefyd yn parhau i gynrychioli buddiannau myfyrwyr yn y maes gwleidyddol cenedlaethol, gan gynnwys cefnogaeth ddiweddar i’r Bil Coronafeirws Rhif 2.

 

Newidiodd llawer o gymdeithasau/undebau myfyrwyr yr Alban yn gyflym i gynnal eu cyfarfodydd cynrychioliadol ar-lein, gan ddefnyddio amgylchedd dysgu rhithwir eu sefydliadau neu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo parhad ymdeimlad o gymuned ymhlith grwpiau myfyrwyr, gan geisio creu rhith-fannau i glybiau a chymdeithasau ffynnu, nawr bod rhaid i bawb aros yn eu cartrefi. Trefnwyd fersiynau rhithwir o ddefodau gwobrwyo diwedd blwyddyn, fel gwobrau addysgu dan arweiniad myfyrwyr, dawnsfeydd cymdeithasau a chlybiau chwaraeon, a gwobrau cyflawniad myfyrwyr, a defnyddiwyd safleoedd ar-lein i drefnu’r digwyddiadau pwysig hyn yn y flwyddyn academaidd.

 

Gan y bydd llawer o gymdeithasau/undebau myfyrwyr yn croesawu timau swyddogion sabothol newydd ym mis Mehefin, mae'n bwysig bod cymdeithasau/undebau myfyrwyr a'u sefydliadau yn parhau i gynnig cymorth i'r timau swyddogion sabothol sydd ar ddechrau yn eu rôl i gynrychioli myfyrwyr yn effeithiol yn yr amgylchiadau dysgu cyfnewidiol sydd ohoni. Fel rhan o Thema Gwella ASA yr Alban, Tystiolaeth ar gyfer Gwella, datblygodd y Prosiect dan arweiniad Myfyrwyr gyfres o adnoddau i gynorthwyo defnydd myfyrwyr o dystiolaeth. Mae Canllaw Myfyrwyr ar gyfer Defnyddio Tystiolaeth yn darparu set o ganllawiau ac astudiaethau achos, sy'n dangos pwysigrwydd defnydd effeithiol myfyrwyr o dystiolaeth yn eu gweithgareddau cynrychioli. Mae'r cynllunydd sy'n dod gyda’r canllawiau’n darparu strwythur lle gall cynrychiolwyr myfyrwyr, yn ogystal â staff cymdeithasau/undebau myfyrwyr a staff sefydliadol, gynllunio eu hymgysylltiad â myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Mae'r Egwyddorion a Chardiau ar gyfer Ymateb i Lais Myfyrwyr yn weithgaredd hawdd ei ddefnyddio i archwilio safbwyntiau myfyrwyr o'u profiad dysgu.

 

Yn ogystal â'r adnoddau hyn sy’n bodoli eisoes, bydd ASA yr Alban yn cynnal panel myfyrwyr, fel rhan o'i Gynhadledd Wella, 'Dysgu o’r amhariad', ar 3 a 4 Mehefin 2020, lle trafodir y cyfleoedd a'r heriau i gynrychiolaeth myfyrwyr mewn cyfnod o amhariad sylweddol.

 

Sut olwg fydd ar sector addysg uwch ar ôl COVID-19 ar gyfer cymdeithasau/undebau myfyrwyr, a sut gallai eu rôl newid? Sut bydd cynrychiolwyr cyrsiau’n mynd ati i gasglu adborth myfyrwyr, ac a fydd yn wahanol, yn y bôn, i'r hyn rydym wedi’i weld o'r blaen? Mae'r rhain yn gwestiynau y bydd yn rhaid i system addysg uwch y DU fynd i'r afael â nhw yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Wrth eu hateb, rhaid i ni gofio pwysigrwydd a gwerth 'myfyrwyr fel partneriaid.'

 

Os hoffech chi drafod y themâu a'r meysydd gwaith sydd wedi cael sylw yn y blog hwn, cysylltwch ag ARCadmin@qaa.ac.uk.