Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Rydym yn gweithredu nifer o bwyllgorau, ac mae pob un ohonynt yn gyfrifol am faes penodol o'n gwaith.

 

Y Pwyllgor Cydnabod a Thrwyddedu Mynediad i AU

Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am weithredu a datblygu'r Cynllun Cydnabod ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch. Mae ei aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn dan gadeiryddiaeth aelod o'n Bwrdd.

Y Pwyllgor Cynghori ar Bwerau Dyfarnu Graddau

Mae'r pwyllgor hwn yn ystyried ceisiadau am bwerau dyfarnu graddau a/neu deitl prifysgol. Mae'r pwyllgor yn cynnwys aelodau'r Bwrdd ac aelodau allanol eraill ac mae'n cyfarfod unwaith y chwarter.

Y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risgiau

Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am systemau mewnol o reolaeth a rheoli risgiau, archwiliadau mewnol ac allanol, ac adroddiadau ariannol. Mae'n cynnwys aelodau'r Bwrdd ac aelodau allanol eraill, ac mae'n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn.

Y Pwyllgor Penodiadau a Chyflogau

Mae'r pwyllgor hwn yn cynghori'r Bwrdd ar benodiad, telerau ac amodau gwaith a chyflogau ein Uwch Dîm Rheoli. Ar sail ein Herthyglau Cymdeithasu, mae'r pwyllgor yn sicrhau bod y Bwrdd yn ddigon amrywiol a bod ganddo'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arbenigedd angenrheidiol i gyflawni ei holl ddyletswyddau. Mae'n cynnwys aelodau'r Bwrdd ac mae'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Y Pwyllgor Cynghori ar Strategaeth QAA Scotland

Mae'r pwyllgor hwn yn darparu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y ffynonellau cyllido a'r polisïau sy'n effeithio ar y sector addysg uwch yn yr Alban. Mae'r pwyllgor yn cynnwys aelod o'n Bwrdd sy'n dod o'r Alban, ein Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a'r Cenhedloedd, a chynrychiolwyr allanol o'r Alban. Maent yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Y Pwyllgor Cynghori ar Strategaeth QAA Cymru

Mae'r pwyllgor hwn yn darparu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y ffynonellau cyllido a'r polisïau sy'n effeithio ar y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae'r pwyllgor yn cynnwys aelod o'n Bwrdd sy'n dod o Gymru, ein Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a'r Cenhedloedd, a chynrychiolwyr allanol o Gymru. Maent yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Pwyllgor Myfyrwyr i Gynghori ar Strategaeth

Mae'r pwyllgor hwn yn hwyluso trafodaethau rhwng myfyrwyr a QAA ar ddatblygiadau yn y sector addysg uwch. Mae ein Prif Weithredwr ac aelodau eraill o'n Bwrdd yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor hwn. Maent yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn.

Y Trysorydd Mygedol

Mae'r Trysorydd Mygedol yn sicrhau bod ein swyddogaethau ariannol yn cael eu gweithredu gyda diwydrwydd dyladwy. Mae'r Trysorydd yn gweithio gyda'n Cyfarwyddwr Cyllid i roi adroddiadau rheolaidd i'r Bwrdd am iechyd ariannol QAA.