Neidio i'r prif gynnwys Datganiad Hygyrchedd

Mae nifer o gyrff sy'n ymdrin â chwynion yn ymwneud ag addysg uwch. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar feysydd penodol lle maent yn cynnig cymorth.


Yn QAA, rydym yn defnyddio'r term ‘pryderon’ yn hytrach na ‘chwynion’. Rydym yn ymchwilio pryderon am safonau academaidd, ansawdd a gwybodaeth gyhoeddus darparwyr addysg uwch y DU. Mae gennym ein Cynllun Pryderon ein hunain. Rydym yn defnyddio'r cynllun hwn i ymchwilio pob achos yn deg ac mor brydlon ag y gallwn.


Gallwn ymdrin â phryderon am y mathau canlynol o ddarparwyr addysg uwch:

  • darparwyr amgen yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Asiantaethau Dilysu Mynediad
  • darparwyr addysg uwch yn yr Alban (ewch i wefan QAA Scotland)


Yr hyn y gallwn eich helpu ag o


Os ydych wedi cwblhau proses gwyno'r darparwr ei hun yn barod, dyma'r hyn y gallwn eich helpu ag o:

  • gwybodaeth gyhoeddus sy'n gamarweiniol neu'n wallus
  • methiant i gyflawni ymrwymiadau a nodwyd mewn prosbectysau a defnydd cyhoeddus arall
  • gwybodaeth gamarweiniol am achrediad cwrs gan gorff proffesiynol
  • dim digon o arweiniad i arholwyr ar farcio papurau arholiad

Yr hyn na allwn eich helpu ag o

  • materion o feirniadaeth academaidd, megis canlyniadau arholiad
  • ceisiadau gan unigolion am ad-dalu ffioedd dysgu
  • ceisiadau i ddarparwyr neu arholwyr allanol ail farcio gwaith
  • cwynion yn erbyn staff unigol
  • problemau y mae'r darparwr wedi'u datrys yn barod

Pwy arall allai helpu?

Os na allwn ni eich helpu, efallai y bydd un o'r cyrff canlynol yn gallu gwneud hynny:


Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol


Mae Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn edrych ar gwynion unigol gan fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr.



Y Swyddfa Myfyrwyr


Mae'r Swyddfa Myfyrwyr yn ystyried pryderon am ansawdd a safonau darparwyr addysg uwch a gyllidir yn gyhoeddus yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.



Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)


Mae CCAUC yn ymdrin â phryderon sy'n ymwneud â darparwyr cyhoeddus yng Nghymru.


Proses Ymchwillo Pryderon (Cymru)

Mae'r drefn yn darparu mecanwaith y gall cyrff cyllido a rheoleiddio addysg uwch ei ddefnyddio i gyfeirio pryderon at QAA i'w hymchwilio am safonau academaidd neu ansawdd profiad y myfyrwyr mewn sefydliadau a reoleiddir. 



A yw eich cwyn yn ymwneud â QAA?


Ewch i'n tudalen ‘Cwynion am QAA’ os gwelwch yn dda